Aelodau Bwrdd Gwirfoddol

Mae Mess Up The Mess yn chwilio am Aelodau Bwrdd Gwirfoddol i ymuno â’i Fwrdd Cyfarwyddwyr.

Cwmni theatr ieuenctid proffesiynol yw Mess Up The Mess, ac mae wedi’i leoli yn Rhydaman, ond mae’n gweithio ar draws De Cymru. Ers 2005, mae Mess Up the Mess wedi bod yn gweithio gyda’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd yn ein cymunedau, gan ddefnyddio theatr a’r celfyddydau fel offerynnau pwerus i ymgysylltu â nhw a’u grymuso i sicrhau bod pobl yn clywed eu lleisiau. O weithdai graddfa fach sy’n seiliedig ar faterion penodol a hyfforddiant paratoi at waith, i brosiectau graddfa fawr sy’n rhoi sylw i faterion anodd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, mae Mess Up The Mess yn herio pobl ifanc i gredu ynddyn nhw’u hunain ac yn eu gallu i wneud eu byd yn lle gwell.

Rydyn ni mewn cyfnod cyffrous yn ein datblygiad: yn ymchwilio i ffrydiau incwm newydd a ffyrdd newydd o weithio tra’n ceisio adeiladu ar ein llwyddiant diweddar ac estyn hyn allan i gynnwys mwy o bobl ifanc eto. Rydyn ni angen Aelodau newydd ar gyfer ein Bwrdd, i ddefnyddio’u profiad, eu sgiliau a’u brwdfrydedd i’n helpu i gyflawni’n nod.

Rydyn ni’n edrych am Aelodau Bwrdd sy’n gallu cefnogi’r mudiad i ddod yn fwy cynaliadwy, cyflwyno persbectifau newydd a heriau newydd ble’n briodol. Yn benodol, rydyn ni’n edrych ar ychwanegu’r nodweddion canlynol at ein Bwrdd:

  • Sgiliau / profiad mewn cyllid a/neu’r gyfraith
  • Gwybodaeth o’r gymuned fusnes ranbarthol neu leol a chysylltiadau â hi
  • Profiad o’r gymuned a / neu lywodraeth leol
  • Sgiliau marchnata a chyfathrebu
  • Profiad o godi arian a nawdd
  • Cynllunio a datblygiad strategol
  • Gwybodaeth o’r celfyddydau a diwydiannau creadigol yng Nghymru, a phrofiad ohonynt

Ac, yn anad dim, rydyn ni’n chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i wella dyfodol pobl ifanc ac sy’n frwdfrydig ynghylch y potensial y mae’r celfyddydau creadigol yn ei gynnig iddyn nhw i flodeuo.

I ddarganfod mwy ac i ddod yn aelod o’n Bwrdd Cyfarwyddwyr, da chi e-bostiwch ni ar info@messupthemess.co.uk.