Rydyn ni’n llawn cyffro wrth i ni fynd nôl at sesiynau wyneb yn wyneb yn Rhydaman a Dyffryn Aman Uchaf. Byddwn ni’n cyflwyno’r sesiynau’n raddol dros Dymor yr Hydref ac rydyn ni’n gwneud popeth posibl i dy gadw di’n ddiogel. Galli di ddarllen mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud yma: Dy Gadw Di’n Ddiogel
Mae’r niferoedd ar gyfer pob sesiwn yn gyfyngedig ac wedi eu gosod yn llym, a bydd gofyn i ti gadw dy le bob wythnos, ymlaen llaw. Fyddwn ni ddim yn gallu dy adael i mewn os wyt ti’n troi i fyny ar y diwrnod heb gadw dy le ymlaen llaw.
Os wyt ti’n newydd i Mess Up The Mess, neu heb fod ers sbel fach, cysyllta â ni trwy’r ffurflen hon (Holi am Weithdai) i ddarganfod sut i gymryd rhan a sut i gadw dy le mewn sesiwn.
Byddwn ni’n dal i gynnal sesiwn bob dydd Mawrth trwy Zoom tan fis Tachwedd.
Amserlen yr Hydref
Nos Fawrth | Nos Iau | |
Hyd nes yr wythnos sy’n dod i ben ar 8 Hydref | Sesiwn Zoom
6.30 – 8.00 pm |
Rhydaman Wyneb yn Wyneb
5.30 – 7.00 pm |
O 11 Hydref tan 31 Hydref | Sesiwn Zoom
6.30 – 8.00 pm |
Rhydaman Wyneb yn Wyneb
Sesiwn 1: 4.00 – 5.30 pm |
O 1 Tachwedd tan 17 Rhagfyr | Dyffryn Aman Uchaf Wyneb yn Wyneb
6.00 – 7.30 pm |
Rhydaman Wyneb yn Wyneb
Sesiwn 1: 4.00 – 5.30 pm |
Sylwer: er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i ddod, galli di ddod i un sesiwn wyneb yn wyneb yn unig, bob wythnos.