Diwrnod VE Ar Lein

VE Day

Roedd pobl ifanc yn eu harddegau o Gwmni Theatr Mess Up The Mess o Dde Cymru i fod i berfformio mewn cyngerdd fawreddog yn Neuadd Gyhoeddus Brynaman er mwyn cofio 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Ond, bu’n rhaid canslo’r digwyddiad oherwydd Covid 19. Roedd y grŵp wedi treulio misoedd yn ymchwilio i hanes y cyfnod ac yn hynod o awyddus i ddod o hyd i ffordd arall o nodi’r achlysur aruthrol o bwysig hwn yn ystod y cyfnod clo, er mwyn dweud diolch wrth y rheiny a aberthodd er mwyn y rhyddid sydd gennym ni heddiw, hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo!

Datblygodd y bobl ifanc raglen gyfan o gynnwys ac adloniant ar-lein ar gyfer y diwrnod, gan ddarlledu’n fyw ar YouTube. Roedd yna sesiwn diwtorial hefyd ar gyfer y ddawns yr oedden nhw wedi ei chreu er mwyn i deuluoedd ei dawnsio tu allan i’w cartrefi, ynghyd â monologau, coginio gyda dognau, cyfleoedd i ffonio i mewn a sesiwn gan y gantores Peri Lynn ei hun, sy’n canu yn arddull y cyfnod.

Creodd y grŵp waith celf sy’n cymharu’r cymunedau a oedd gartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’n profiadau ni o’r cyfnod clo ar hyn y bryd, gan gynnwys posteri ‘propaganda’ modern yn annog pobl i olchi eu dwylo ac i aros gartref, ynghyd â stori raffeg yn archwilio’r cysyniad o deithio trwy amser, rhwng y ddau gyfnod!

Penllanw’r diwrnod oedd dawns genedlaethol i gyfeiliant llais pêr Peri Lynn yn canu We’ll Meet Again! Bu’r grŵp yn addysgu’r ddawns trwy gydol yr wythnos ar gyfryngau cymdeithasol, gan annog teuluoedd i recordio a rhannu eu fersiwn nhw o’r ddawns, ac adeiladu tuag at ‘fflashmob’ ar-lein.

Meddai Aelod o’r grŵp, Magda Smith:

Mae’r cyfnod clo yn gyfnod heriol i bawb, ac roedd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ddiwrnod i ddathlu diwedd yr ail ryfel byd ar 8 Mai 1945. Efallai nad ydyn ni mewn lle perffaith yn y byd ar hyn o bryd gyda Covid – 19 ond nid yw’n golygu na allwn ni ddathlu’r buddugoliaethau y mae Ewrop wedi eu hennill yn barod. Mae’n rhoi gobaith i fi.