Ein Gweledigaeth:
Rydyn ni’n creu theatr letchwith a dewr, gan bobl ifanc, ar eu cyfer a gyda nhw
Ein Cenhadaeth:
Credwn nad rhywbeth i’r breintiedig yn unig yw’r theatr, ac felly, er mwyn gwireddu ein gweledigaeth, rydyn ni’n
- trochi ein hunain ym mydoedd pobl ifanc
- ymrwymo i broses a chynnyrch
- cydweithio gyda phobl ifanc ac artistiaid proffesiynol, gan ddatblygu perthnasoedd creadigol cilyddol, sy’n blodeuo gydag amser
- creu ein repertoire ein hunain ar sail bywydau pobl ifanc
- gweithio gyda phobl ifanc anodd eu cyrraedd a hawdd eu hanwybyddu, o bob rhan o Dde Cymru
- a gyda chymunedau o ddiddordeb, hunaniaeth a daearyddiaeth
Cynhyrchwn theatr sy’n uchelgeisiol i gyfranogwyr ac i gynulleidfaoedd, sy’n herio’u syniadau ynghylch yr hyn y gall celfyddyd fod a’r hyn y gall wneud, ac sy’n gwneud gwahaniaeth!