Hidden

Hidden Gan Bethan Marlow

Mae Andy’n fachgen ifanc, normal yn ei arddegau. Mae’n un ar bymtheg, yn mynd i drafferth yn yr ysgol ac eisiau ychydig o arian ychwanegol. Pypedau cariadus yw ei efeilliaid – un bachgen ac un ferch – ac mae ei fam yn byw mewn bocs anferth. ‘Dyw e’ ddim yn dod ymlaen gyda’i lys-chwaer Mel a ‘does dim cof ganddo o sut un oedd ei dad. Yn eu tŷ nhw, mae yna gyfrinach na ŵyr neb – neu os ydyn nhw’n gwybod, ‘dydyn nhw ddim yn siarad amdano. Mae’r gweithwyr cymdeithasol yn busnesa, athrawon yn rhoi eu trwynau i mewn a Nain yn chwarae ei Playstation.

Mae Andy’n fachgen ifanc, normal yn ei arddegau. Gwir?

Teithiwyd ar draws De Cymru ac Iwerddon gyda Hidden ym mis Mawrth 2012.

Ken and Bee, portrayed by puppets

Hidden, Gan Bethan Marlow, Mis Mawrth 2012

Crëwyd Hidden mewn partneriaeth â phrosiect Niwed Cudd Sir Gâr Barnardo’s Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin. Archwilia’r ddrama fywyd pobl ifanc y mae cael rhieni gyda phroblemau camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn cael effaith arnynt. Gweithiodd yr awdures, Bethan, yn agos gyda phanel o bobl ifanc a fu’n cynghori ar gynnwys y sgript, a’i harddull, gan sicrhau bod y testun yn cael sylw effeithiol a dilys.

“Galla i ddweud â’m llaw ar fy nghalon na fyddai’r ddrama hon wedi bod yn bosib heb y bobl ifanc a fu’n chwarae, yn rhannu ac yn cynghori yn ein gweithdai – diolch bois, mae’r ddrama hon i chi.” – Bethan Marlow, Awdures.

Fe fu cast cymysg o actorion proffesiynol, myfyrwyr a phobl ifanc yn perfformio Hidden i gynulleidfaoedd, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid, canolfannau triniaeth, gweithwyr cymdeithasol a’r cyhoedd.

“Mae drama Beth, ‘Hidden’, yn archwilio drama emosiynol sefyllfaoedd o fywyd go iawn, a hefyd yr hiwmor o fewn yr adegau anodd hynny, i’n helpu ni i estyn allan at ein cynulleidfaoedd a chodi ymwybyddiaeth o’r materion.” – Sarah Jones, Cyfarwyddwr.

Supported by Arts Council Wales, Barnardo's Cymru, Millennium Stadium Charitable Trust, Big Lottery Fund, European Social Fund, Welsh Government, BBC Children in Need, Carmarthenshire County Council, Coracle