Cwmni Theatr Mess Up The Mess a Youth Cymru yn cyflwyno
Humanequin
Awdur: Kelly Jones
20 – 24 Tachwedd, Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Mae tri actor trawsryweddol yn camu ar lwyfan. Maen nhw eisiau i ti wrando. Maen nhw am ei dweud hi fel ma’ hi. Sut y mae yn 2018. Pan fo gan bob un arall farn. Clyw eu gwirionedd.
Humanequin – drama am rywedd, hunaniaeth a dod o hyd i dy deulu yn y lle mwyaf annhebygol. Dan gyfarwyddyd Jain Boon a’r awdur Kelly Jones, bu’r actorion yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o Traws*Newid Cymru a myfyrwyr o Ysgol Gyfun Radur i ddyfeisio Humanequin. Rhannwyd eu straeon a’u profiadau tebyg a’u straeon a’u profiadau unigol, i greu perfformiad sy’n addysgu, yn herio ac yn ennyn sgwrs am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn drawsryweddol yn 2018.
Dechreuodd Humanequin fel Prosiect Gweithredu Cymunedol a gynhaliwyd ar y cyd â Youth Cymru fel rhan o’n rhaglen Breuddwydiwch a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr. Buom yn gweithio gyda’u grŵp Traws*Newid o bobl ifanc drawsryweddol i greu perfformiad a ffilm i chwalu’r mythau a’r camsyniadau ynghylch amrywedd rhywedd ac i annog sgwrs am hunaniaeth ryweddol. Gyda nawdd gan Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, ISD a Chanolfan Mileniwm Cymru rydym yn dod â’r perfformiad i Stiwdio Weston.
Dydd Mawrth 20 Tachwedd 1.00 pm
Dydd Mercher 21 Tachwedd 10.00 am
Dydd Iau 22 Tachwedd 10:00 am a 1.00 pm
Nos Wener 23 Tachwedd 8.30 pm
Nos Sadwrn 24 Tachwedd 8.30 pm
Tocynnau’n £12 (Ysgolion: £5) o Ganolfan Mileniwm Cymru
029 2063 6464
Mae perfformiadau dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn yn berfformiadau dwbl gyda Milk Presents…Bullish. Gweler Canolfan Mileniwm Cymru am brisiau’r tocynnau.