Rhaglen Arts Award

Mae Arts Award yn tywys plant a phobl ifanc ar daith greadigol, gan archwilio byd y celfyddydau, darganfod eu potensial fel artistiaid, datblygu sgiliau arwain – ac ennill cymhwyster a gydnabyddir ar hyd y daith. Mae’r set unigryw hon o gymwysterau ym maes y celfyddydau yn agored i unrhyw un sy’n 25 oed neu’n iau, ac mae’n meithrin sgiliau hanfodol er mwyn llwyddo yn yr 21ain ganrif: Creadigrwydd a chyfathrebu, ynghyd â datrys problemau, meddwl adfyfyriol a hyder.” https://www.artsaward.org.uk/

Mae staff Mess Up The Mess wedi hyfforddi i fod yn Gynghorwyr Arts Award ym maes Darganfod ac Archwilio ac Efydd ac Arian ac i ddod yn Ganolfan Arts Award.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl ifanc wedi cwblhau’r wobr Archwilio yn ystod sesiynau drama wythnosol a’r wobr Efydd trwy’r Cwrs Preswyl Hyfforddiant Addysg dan Arweiniad Cyfoedion.

Yn ystod sesiynau drama wythnosol, magodd y bobl ifanc sgiliau newydd mewn byrfyfyrio, comedi a theatr gorfforol, dysgu am artistiaid proffesiynol y maen nhw wedi gweithio gyda nhw a thwrio’n ddyfnach i fyd Mess Up The Mess fel sefydliad celfyddydol.

Yn ystod y Cwrs Preswyl, fe fu’r bobl ifanc yn dysgu sgiliau newydd mewn Hwyluso Celfyddydau Ieuenctid, yn rhannu sgil gelfyddydol gyda’i gilydd ac yn gwylio perfformiad byw o “I Need a Hero” gan Frankie Williams, gan wneud adolygiad ohono, a holi cwestiynau i’r awdur a’r perfformiwr am y broses a’r siwrnai greadigol.