Ry’n ni wedi llunio rhaglen lawn o weithgareddau ar-lein ar gyfer yr hydref. Gobeithio y bydd rhywbeth ynddi i chi ei fwynhau.
Yn anffodus, oherwydd Covid 19, allwn ni ddim cynnal sioe fyw mewn theatr eleni. Rydyn ni’n mynd i wneud y gorau allwn ni, a sicrhau bod ein Sioe Aeaf / Nadolig ar-lein mor gyffrous, rhyngweithiol a bywiog â phosibl. Mae rhai o bobl ifanc Mess Up The Mess wedi bod yn gweithio ar syniadau yn ystod y Labordy Creu dros yr haf. A bydd pawb yn cael cyfle i ychwanegu at y rhain yn sesiynau’r Hydref.
Ry’n ni’n gweithio ar gynllun ar gyfer dychwelyd at weithgareddau mwy normal pan fydd Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ni wneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny dim ond pan fyddwn ni’n teimlo ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny. A byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n ddiogel. Gallai hyn olygu ein bod yn rhedeg gweithgareddau mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer.
Os hoffech chi ymuno yn unrhyw rai o’r gweithgareddau hyn, neu os ydych chi eisiau cysylltu am unrhyw reswm, gallwch chi wneud hynny:
- gallwch ein cyrraedd ni ar Twitter, FaceBook neu Instagram: @MessUpTheMess
- anfon neges atom trwy e-bost: hello@messupthemess.co.uk
- neu anfon neges destun atom: 07451 270 720
Datblygu Sioe Aeaf Mess Up The Mess | ||
BOB DYDD MAWRTH
6.30 -8.00
|
BOB DYDD IAU
6:3 – 8.00
|
|
HYD 12 – 16 | Sesiwn Gymdeithasol MUTM
|
Ystafell Ysgrifennu
Ysgrifennu’r sioe aeaf gyda Hefin Robinson |
HYD 19 – 23 | Datblygu’r Sioe Aeaf | Ystafell Ysgrifennu
Ysgrifennu’r sioe aeaf gyda Hefin Robinson |
HYD 26 – 30 |
Hanner Tymor Dydd Mawrth – Sesiwn Gymdeithasol MUTM – Thema Calan Gaeaf – 6:30-8pm Dydd Mercher – Sesiynau Wyneb yn Wyneb yn yr Awyr Agored – Amserau a lleoliadau i’w cadarnhau – Rhaid cadw dy le ymlaen llaw Dydd Iau – My Mix(ed Up) Tape – 14+ Perfformiad Ar-lein gan Dirty Protest – 4-5pm |
|
TACH 2 – RHAG 4 | BOB DYDD MAWRTH & BOB DYDD IAU 6:30-8PM
Creu, Recordio ac Ymarfer cynnwys ar gyfer Sioe’r Gaeaf |
|
RHAG 7 – 13 | Wythnos Cynhyrchu Sioe Aeaf Mess Up The Mess
Perfformiad Ar-lein Sioe Aeaf Mess Up The Mess – Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr
|