Cefnogwch Ni

Pan fydd Mess Up The Mess yn derbyn rhodd mae’n gwneud gwir wahaniaeth i’n gwaith ac i’r bobl ifanc yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n profi nifer o anfanteision ar draws De Cymru. Trwy ddrama a gweithgareddau eraill sy’n seiliedig ar y celfyddydau mae pobl ifanc yn:

  • Magu hyder a hunanbarch
  • Ennill ffrindiau a chefnogaeth
  • Anelu’n uwch
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Gwella’u cyfleoedd mewn bywyd

Rydyn ni’n annog pobl ifanc i wirfoddoli ac i wneud newidiadau positif i’w cymunedau.

Dydyn ni ddim yn codi tâl ar bobl ifanc am gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Cawn ein cyllido trwy grantiau, ond yn aml nid yw hyn yn cwmpasu pob rhan o’n gwaith.

Rydyn ni’n derbyn unrhyw roddion gyda diolch.