Rhoddodd Strike 25 y cyfle a’r sgiliau ychwanegol i dros 50 o bobl ifanc lleol i weithio ochr yn ochr â pherfformwyr proffesiynol a’r gymuned ehangach i ymchwilio, ysgrifennu, dyfeisio, perfformio a mynd ar daith gyda chynhyrchiad theatrig gwreiddiol yn coffáu Streic y Glowyr 1984 o safbwynt merched lleol.
Crëwyd y cynhyrchiad atgofus, heriol hwn i goffáu chwarter canrif ers streic y Glowyr 1984. O ddosbarthu parseli bwyd i’r rhai oedd eu hangen fwyaf, i bicedu a gorymdeithio, roedd merched yno yn nwfn y frwydr i hawlio chwarae teg i’w gwerthoedd a’u cymuned. Seiliwyd y cynhyrchiad unigryw hwn ar gyfweliadau a arweiniwyd gan y bobl ifanc gyda merched lleol ac mae’n cynnig ciplun o amser a ddiffiniodd y Brydain fodern.


