Dyffryn Aman Youth Theatres
Croeso / Welcome
Rydyn ni’n cynnal sesiynau theatr greadigol wythnosol ar gyfer ein pobl ifanc (11 i 25 oed) yn yr ardal o’n cwmpas yn Nyffryn Aman.
Os oes diddordeb gennyt mewn dod i un o’r sesiynau am y tro cyntaf, dilyna’r ddolen hon a llenwa’r ffurflen. Bydd aelod o staff yn dod yn ôl atat cyn gynted â phosibl. Galli di ddisgwyl llond lle o weithgareddau creadigol, hwyl a sbri, a chyfle i feithrin hyder, datblygu cyfeillgarwch a datblygu sgiliau theatr.
Yr amserlen ar hyn o bryd:
Bob nos Fawrth yn Gwaun cae gurwen
Cyfeiriad: Gwaun cae gurwen,
6.00 – 8.00pm
Agored i bobl ifanc 10 i 25 oed
Bob nos Iau yn Rhydaman
Agored i bobl ifanc 10 i 25 oed
Sesiwn 1: 4.00pm – 5:30pm
neu
Sesiwn 2: 6pm – 8pm
Rydyn ni’n gofyn i bobl ifanc ddewis un sesiwn i fynd iddi bob wythnos – oherwydd, unwaith eto, mae’r llefydd yn gyfyngedig.
Rydyn ni’n dal i geisio sicrhau bod pob person ifanc ac aelod o staff yn ddiogel ac felly rydyn ni’n dal i ddilyn rhai o’r gweithdrefnau COVID-19. Mae yna nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ac ar hyn o bryd, yn anffodus, nid yw’n bosibl cerdded i mewn i sesiwn, felly mae’n hanfodol dy fod yn cysylltu i ofyn am le mewn sesiwn.
Os oes unrhyw gwestiynau gennyt, paid ag oedi rhag estyn allan gan ddefnyddio’n cyfeiriad e-bost: hello@messupthemess.co.uk


