
Mae Lleisiau Coll yn brosiect sy’n para 2 flynedd. Mae’n archwiliad greadigol o leisiau coll pobl ifanc sydd ddim wedi cael eu clywed yn draddodiadol, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o’r system ofal a phobl ifanc â phrofiad o ddigartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae Mess Up The Mess yn gweithio gyda Llamau a Gwasanaethau Plant Dinas a Sir Abertawe er mwyn cefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau ac i ddatblygu, siapio a chreu eu gwaith celf eu hunain ar raddfa fawr.
Mae pobl ifanc 16 i 25 oed ar draws De Cymru yn gweithio gyda rhai o brif artistiaid Cymru i gyd-greu gwaith celf cyhoeddus a fydd yn mynegi eu profiadau ac yn adrodd y straeon y maen nhw eisiau eu hadrodd. Dydyn ni ddim yn gwybod i ble bydd y siwrnai greadigol hon yn ein tywys. Mae’r canlyniad yn nwylo’r cyfranogwyr. Dydyn ni ddim yn gwybod a fydd y broses yn arwain at ddrama, ffilm, arddangosfa, profiad ymgolli neu rywbeth nad oes unrhyw un wedi ei weld o’r blaen. Ond rydyn ni’n gyffrous i ddarganfod beth fydd y canlyniad.
Dros y 2 flynedd, bydd cyfranogwyr Lleisiau Coll yn gweithio gydag artistiaid proffesiynol gan gynnwys awduron, dylunwyr a cherddorion. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys cyfleoedd i artistiaid newydd ac artistiaid sy’n amlygu i gael profiad ar y prosiect, gyda thâl, ac yn cynnig cyfleoedd i weithwyr llawrydd a hyfforddeiaethau am dâl, i gefnogi artistiaid o gefndiroedd anhraddodiadol i ymsefydlu yn y diwydiant.
Bydd Lleisiau Coll yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2022 gyda digwyddiad celf cyhoeddus lle bydd y cyfranogwyr yn rhannu’r hyn y maen nhw wedi’i greu – a’r straeon y maen nhw am eu hadrodd am eu bywydau.
Bu’r prosiect hwn yn bosibl diolch i nawdd gan gynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

