Sefydlodd Sarah Jones a Peri Wagstaff Mess Up The Mess yn Slough yn 2005. Trwy weithio gyda phobl ifanc anodd eu cyrraedd, a dan anfantais, fe fuon nhw’n datblygu cynyrchiadau gan gynnwys A Winters’ Tale a Threepenny Opera, gan arloesi Cynllun Theatr Apprentice i gorff o’r enw Creative Academy a Chyngor Celfyddydau Lloegr.
Daeth Peri â Mess Up The Mess i Gymru yn 2007. I ddechrau, roedd wedi’i leoli ym mhentref gwledig Brynaman, ac fe fu Mess Up The Mess yn gweithio gyda 150 o bobl ifanc o Gymru, Lloegr a Seland Newydd dros y rhyngrwyd i greu Strangers, sef cynhyrchiad gwreiddiol yn archwilio’r themâu o fod yn ddieithryn, treftadaeth ddiwylliannol, mewnfudo a gwladychiad.
Dychwelodd Sarah o Seland Newydd yn 2009, a daeth y cwmni â 50 o bobl ifanc at ei gilydd i weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol a’r gymuned ehangach, i ymchwilio ar gyfer cynhyrchiad dwyieithog gwreiddiol, i goffau Streic y Glowyr 1984, o bersbectif menywod lleol, ac i berfformio’r cynhyrchiad hwnnw a mynd ag ef ar daith.
Dros y blynyddoedd dilynol, trosglwyddodd Mess Up The Mess raglenni o brosiectau ieuenctid a chymunedol cyfranogol a theatr ieuenctid i gynulleidfaoedd ifanc. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Gweithreda Nawr! – 3 blynedd o raglen, a ariannwyd trwy’r Gronfa Loteri Fawr, gan ddod â grwpiau amrywiol o bobl ifanc at ei gilydd i gydweithio ar ddigwyddiadau celfyddydol amlgyfrwng i leisio’u persbectifau a’u profiadau.
- Anelu’n Uwch – 4 blynedd o raglen, a ariannwyd trwy Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, i ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i wella’u sgiliau a chodi eu hyder.
- Hidden – darn heriol o theatr broffesiynol i gynulleidfaoedd ifanc, ar sail profiadau plant a phobl ifanc sy’n byw gyda rhieni sydd â phroblemau alcohol a dibyniaeth.
- Queer Christmas – cynhyrchiad cymunedol mewn un safle arbennig, yn dathlu bywyd hoyw yn Abertawe
Bellach, mae Mess Up The Mess wedi symud i Rydaman ac mae wedi tyfu i gynnwys 5 aelod staff a thîm helaeth o artistiaid llawrydd proffesiynol, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymheiriaid. Mae’n cynnal 3 gweithdy dwyieithog wythnosol rheolaidd ym GCG a Rhydaman ac yn estyn allan at pobl ifanc anodd eu cyrraedd a hawdd eu hanwybyddu ar draws De Cymru.

