Bydd Mess Up The Mess ar gau o 20 Rhagfyr nes 6 Ionawr 2025.
Ry’n ni’n gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn adeg anodd i rai a dy fod yn gallu teimlo nad oes unrhyw le i droi am gymorth, gan fod pob man ar gau. Dyma rai o’r llefydd y galli di eu ffonio, anfon neges destun atynt ac anfon neges atynt dros gyfnod y Nadolig.
Os wyt ti angen unrhyw gymorth ychwanegol, cysyllta ag unrhyw un o’r mudiadau canlynol. Maen nhw yno i helpu ac i wrando ar bob adeg, waeth pa mor fawr neu fach yw’r broblem.
Llefydd sy’n cynnig Cymorth a Chyngor
ChildLine – cysuro, cynghori ac amddiffyn plant 24 awr y dydd
0800 1111 Cwnsela ar-lein: https://www.childline.org.uk/get-support/1-2-1-counsellor-chat/
The Mix – cymorth hanfodol i bobl ifanc dan 25 oed
0808 808 4994
4pm-11pm Dydd Llun i Ddydd Sadwrn
Sgwrsio – www.themix.org.uk/get-support/speak-to-our-team
Y Samariaid – Ry’n ni’n cynnig lle diogel i ti siarad pryd bynnag fyddi di eisiau siarad, yn dy ffordd di – am beth bynnag sy’n dy boeni. ‘Does dim rhaid i ti fod yn teimlo dy fod eisiau lladd dy hun.
Ffonia ni yn rhad ac am ddim: 116 123 (24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos)
HOPELineUK – gwasanaeth cymorth a chyngor cyfrinachol i: Bobl ifanc dan 35 oed sydd efallai’n meddwl am hunanladdiad, neu unrhyw un sy’n poeni y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.
Ffôn: 0800 068 41 41
Neges destun: 07786209697
E-bost: pat@papyrus-uk.org
Os wyt ti’n meddwl am ladd dy hun neu’n poeni am rywun ifanc sydd efallai’n teimlo fel hyn, galli di gysylltu â HOPELINEUK am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.
Oriau agor:
9am – hanner nos trwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys Penwythnosau a Gwyliau Banc)
Gwasanaethau Brys
Os wyt ti’n teimlo dy fod eisiau diweddu dy fywyd, ceisia help ar unwaith gan y gwasanaethau brys ar 999, neu os wyt ti’n credu bod bywyd rhywun neu dy fywyd di mewn perygl, ffonia 999 neu 101 i siarad â’r gwasanaethau brys am gymorth
