Galw Am Artistiaid

Rydyn ni eisiau recriwtio Rheolwr Llwyfan / Cynhyrchu a 3 artist sy’n amlygu ar gyfer prosiect Lleisiau Coll.

Prosiect 2 flynedd yw Lleisiau Coll ac mae’n archwilio lleisiau coll pobl ifanc sydd heb gael eu clywed yn draddodiadol, mewn ffordd greadigol. Mae’n cynnwys pobl ifanc â phrofiad o’r system ofal a phobl ifanc sy’n profi digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae Mess Up The Mess yn gweithio gyda Llamau a Gwasanaethau Plant Dinas a Sir Abertawe i gefnogi pobl ifanc i ffeindio’u llais ac i ddatblygu, siapio a chreu eu gwaith celf eu hunain ar raddfa fawr.

Mae pobl ifanc 16 i 25 oed o bob rhan o Dde Cymru yn gweithio gyda rhai o artistiaid arweiniol Cymru er mwyn cyd-greu darn o waith celf cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2023 a fydd yn lleisio’u profiadau ac yn adrodd y straeon y maen nhw am eu hadrodd. Mae yna waith ar y gweill o hyd i ddatblygu cyrchfan y siwrnai greadigol hon, ond dyma beth yr ydym yn ei wybod hyd yn hyn:

Rydym yn mynd i greu gosodiad siwrnai/profiad ar nifer o ffurfiau celf gwahanol ar gyfer cynulleidfa, ac mi fydd yn “Dŷ Hwyl sydd Ddim Wir yn Hwyl” sy’n cynnwys:

  • Elfen o osodiad
  • Elfen o berfformiad byw
  • Elfen o gig
  • Profiad emosiynol
  • Profiad amlsynhwyraidd
  • Archwilio’r themâu a’r cysylltiadau rhwng Digartrefedd ac Iechyd Meddwl

GALW AM REOLWR LLWYFAN / CYNHYRCHU

Rydym yn chwilio am Reolwr Llwyfan / Cynhyrchu profiadol i ymuno â ni ar gyfer ein prosiect Lleisiau Coll. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wybodaeth a dealltwriaeth dda am logisteg digwyddiadau theatraidd sy’n ymdrochi’r gwyliwr, a gweithio gyda grŵp amrywiol o bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau Llamau a gwasanaethau Plant.

Bydd y rôl yn golygu gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi bod trwy’r system ofal, wedi profi digartrefedd neu wedi bod mewn perygl o fod yn ddigartrefedd oherwydd ffactorau eraill yn eu bywydau, er enghraifft byw gydag anabledd cudd neu fod yn LGBTQI+.

Mae’r gwaith hwn yn golygu gweithio gyda phobl ifanc dan 18. Bydd gofyn i’r artist llwyddiannus gael Datgeliad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda Mess Up The Mess cyn dechrau ar y gwaith.

YMRWYMIAD A FFI:

Nosweithiau Mercher 4:30 – 6:30 yng Nghaerdydd ac Abertawe (am yn ail bob wythnos) rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf

2 x ddiwrnod llawn o Ymarferion (dyddiadau i’w cadarnhau) – pan fydd y bobl ifanc i gyd yn dod at ei gilydd o’r ddwy ardal

Wythnosau Cyn y Cynhyrchiad – wythnosau yn dechrau ar 26 Mehefin a 3 Gorffennaf

Wythnos y Cynhyrchiad – 10 Gorffennaf

Digwyddiad – 14 a 15 Gorffennaf

Dyddiadau eraill i’w trafod

Ffi – £4630.00 a chostau teithio rhesymol

SUT I YMGEISIO

I ymgeisio, rhaid i chi anfon CV, nodyn hyd at 500 o eiriau i fynd gyda’r CV yn esbonio pam y byddech chi’n iawn ar gyfer y rôl, neu fideo hyd at 2 funud o hyd yn siarad am hyn. Os oes dolenni gennych at bortffolio ar-lein, byddai’n dda petaech yn eu rhannu gyda ni hefyd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r pethau hyn yw Dydd Gwener 24 Chwefror. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod wythnos 27 Chwefror

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon www.signup.cymunedmessup.cymru/stage-manager-callout/ i anfon eich cais atom.

GALW AM ARTISTIAID SY’N AMLYGU AR GYFER LLEISIAU COLL

Rydym yn chwilio am 3 rôl:

  • Artist gweledol/crëwr/dylunydd sy’n dod i’r amlwg
  • Cynllunydd golau sy’n dod i’r amlwg
  • Artist clyweledol/amlgyfrwng sy’n dod i’r amlwg

Rhaid bod yr artistiaid hyn yn llawn cyffro wrth feddwl am adeiladu eu sgiliau a’u profiad wrth weithio ochr yn ochr â phobl ifanc 16 i 25 oed. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i chwalu rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan, ynghyd â’r gallu i feithrin cydberthnasau â grwpiau amrywiol o bobl ifanc. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan y profiad o gyd-greu gyda phobl ifanc a gan bŵer y celfyddydau i’w trawsnewid nhw a’u hamgylcheddau.

Bydd y rôl yn golygu gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi bod trwy’r system ofal, wedi profi digartrefedd neu wedi bod mewn perygl o fod yn ddigartrefedd oherwydd ffactorau eraill yn eu bywydau, er enghraifft byw gydag anabledd cudd neu fod yn LGBTQI+. Rydym yn chwilio am artist ac ymarfer artistig y gall y cyfranogwyr uniaethu â nhw.

Mae’r gwaith hwn yn golygu gweithio gyda phobl ifanc dan 18. Bydd gofyn i’r artist llwyddiannus gael Datgeliad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda Mess Up The Mess cyn dechrau’r gwaith.

YMRWYMIAD A FFI:

Nosweithiau Mercher 4:30 – 6:30 yng Nghaerdydd ac Abertawe

Wythnos y Cynhyrchiad – 10 Gorffennaf (digwyddiad ar 15 ac 16 Gorffennaf)

Ffi: £1080.00 a chostau teithio rhesymol. Bydd Mess Up The Mess yn darparu’r deunyddiau ar gyfer y gweithdai.

SUT I YMGEISIO

I ymgeisio, rhaid i chi anfon CV, nodyn hyd at 500 o eiriau i fynd gyda’r CV yn esbonio pam y byddech chi’n iawn ar gyfer y rôl, neu fideo hyd at 2 funud o hyd yn siarad am hyn. Os oes dolenni gennych at bortffolio ar-lein, byddai’n dda petaech yn eu rhannu gyda ni hefyd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r pethau hyn yw Dydd Gwener 24 Chwefror. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod wythnos 27 Chwefror.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon www.signup.cymunedmessup.cymru/emerging-artist-callout/ i anfon eich cais atom.