Devil’s Violin

Blog Devil’s Violin

gan Poppy Wilgress Hyfforddai Prosiect Lleisiau Coll

 

Ym mis Ionawr a Chwefror 2023, ffurfion ni bartneriaeth gyda’r cwmni cynhyrchu cerddoriaeth a storïa, Devil’s Violin. Yn ystod y cyfnod hwn fe fu Devil’s Violin yn cynnig gweithdai storïa a cherddoriaeth i’r bobl ifanc yn ein sesiynau wythnosol bob dydd Mawrth a dydd Iau. Yn ystod y sesiynau hyn, clywodd y bobl ifanc amrywiaeth o straeon a chwedlau, gan yr awdur a’r perfformiwr Daniel Morden. Yn ystod y sesiynau gyda Daniel, dysgodd y bobl ifanc lawer am yr hyn sy’n creu straeon pwerus a sut i gadw sylw’r gynulleidfa mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Rhoddwyd cyfle i’r bobl ifanc i arbrofi gyda cherddoriaeth hefyd, dan arweiniad y cerddorion talentog, Oliver Wilson-Dickson a Sarah Moody. Cyflwynwyd y bobl ifanc i ffurfiau sain a cherddoriaeth newydd, a rhoddwyd arweiniad i’r rheiny â phrofiad o gerddoriaeth yn barod. Dangosodd Sarah ac Oliver i’r bobl ifanc sut mae modd cynnwys cerddoriaeth wrth storïa, heb feddiannu perfformiad unrhyw un, a chydweithio i greu cytgord rhwng y storïa a’r gerddoriaeth.

Daeth yr holl sgiliau a’r syniadau o’r sesiynau at ei gilydd ar 14 Chwefror gyda pherfformiad Devil’s Violin o ‘The Beast Within Me’, a bu rhai o’r bobl ifanc o Mess Up The Mess yn cymryd rhan trwy godi’r llen a rhannu. Yn ystod y perfformiad, fe fu un o’r bobl ifanc yn perfformio’i fersiwn o ‘Butterfly Soul’, sef stori am bersbectif a newid. Fe fu rhai o’r bobl ifanc eraill yn cyfeilio i’r perfformiad, gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau fel piano, gitâr, seiloffon ac iwcilele.  Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r perfformiad cyn y sioe gan ein pobl ifanc, a daeth ffrindiau, aelodau o’r teulu a’r gymuned leol at ei gilydd i wylio. Yna, i ddilyn, cafwyd perfformiad o ‘The Beast Within Me’ gan Devils Violin, a oedd yn hynod o ddifyr a diddorol. Llwyddodd i grisialu celfyddyd storïa a thalu gwrogaeth i hanes diwylliannol hir Cymru o chwedlau a llên gwerin. Roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o’r broses a’r perfformiad a buasen ni wrth ein boddau petawn yn cael cyfle i weithio gyda Devil’s Violin eto yn y dyfodol.

Dolen at wefan a dyddiadau taith Devil’s Violin: https://www.thedevilsviolin.co.uk/