Sioe Aeaf 2022

Sioe Aeaf 2022

Gan Poppy Wilgress, Hyfforddai Lleisiau Coll

 

Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd Mess Up The Mess ei sioe Aeaf flynyddol o’r enw ‘Sbi-iâ: Y Ddihangfa Fawr’. Roedd y sioe, a ddatblygwyd ac a berfformiwyd gan bobl ifanc gyda chymorth artistiaid, yn brofiad o ddihangfa ryngweithiol. Roedd yn rhaid i’r gynulleidfa ddatrys posau a dod o hyd i gliwiau i Tulip, egin-fotanegydd ifanc sy’n darganfod bod planhigion yn marw’n araf bach, yn ganlyniad i weithgarwch dieflig y cwmni Amci Soul. Tasg y gynulleidfa oedd dod o hyd i’r cliwiau a helpu Tulip i achub y dyfodol. Roedd aelodau’r gynulleidfa yn cael bod yn ysbiwyr ac yn cael eu tywys trwy’r sioe gan y prif ysbïwr ‘Spy-ghetti’ a’i recriwtiaid newydd. Aeth aelodau’r gynulleidfa i mewn i sawl ystafell, pob un â lleoliad a chymeriadau gwahanol, gan gynnwys Tir Diffaith, Labordy Gwyddoniaeth ac Ystafell y Bwrdd.

 

Datblygwyd ‘Sbi-iâ: Y Ddihangfa Fawr’ yn ystod haf 2022 yng ngweithdy Dihangfa Greadigol Mess Up The Mess . Yma, aeth y bobl ifanc ati i ddatblygu’r stori am Tulip a’r planhigion a oedd yn marw, yn ogystal â chysyniad y ddihangfa. Yn ystod tymor yr hydref, fe fu’r bobl ifanc yn datblygu’r sioe ymhellach gyda thîm Flossy and Boo, sy’n ysgrifennu ar gyfer y theatr, ac fe fuon nhw’n gweithio gyda sawl artist arall hefyd i greu cerddoriaeth, gwisgoedd a setiau ar gyfer y sioe. Yr hyn sy’n gwneud cynyrchiadau fel hyn mor arbennig ac mor greiddiol i genhadaeth Mess Up The Mess yw bod y sioe gyfan, o’r cysyniad cyntaf i’r perfformiad, yn cael ei chreu gan y bobl ifanc ac yn cynnwys pynciau a materion sy’n bwysig iddyn nhw. Gyda Sbi-iâ, nodwedd amlwg iawn o’r sioe oedd thema’r amgylchedd a chadwraeth, yn ogystal â sylwadau am rôl busnesau mewn newid hinsawdd a llygredd.

Fe gafodd pobl ifanc Mess Up The Mess amser gwefreiddiol a gwerth chweil wrth gymryd rhan yn y sioe, waeth a oedden nhw’n rhan o’r gwaith o ddylunio’r cynhyrchiad neu’r gwisgoedd, yn perfformio neu hyd yn oed yn ysgrifennu. Roedd y sioe aeaf hefyd yn gyfle i’r bobl ifanc ddangos yr holl sgiliau a’r hyder y maen nhw wedi eu magu gyda Mess Up The Mess. Dywedodd aelod o deulu un o’r bobl ifanc “Mae ein plentyn yn ffynnu! Mae’n hyderus ac yn archwilio sawl cyfeiriad ym maes theatr a pherfformio”. Esboniodd gofalwr un arall o’r bobl ifanc, “Ers dechrau gyda Mess Up The Mess, rydyn ni wedi gweld hyder (unigolyn ifanc) yn tyfu ac mae eu gorbryder cymdeithasol o dan reolaeth a’u llesiant cyffredinol gymaint yn well”. Cafodd y sioe a’r perfformwyr lawer o ganmoliaeth a sylwadau positif hefyd, gydag aelodau’r gynulleidfa’n disgrifio’r sioe gyda’r geiriau ‘Egnïol’, ‘Difyr’, ‘Cyffrous’ a ‘Chwilfrydig’.

Gellir dweud, heb os, fod cynhyrchiad gaeaf Mess Up The Mess o ‘Sbi-iâ:Y Ddihangfa Fawr’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol, diolch i’w strwythur cyffrous fel dihangfa a’i stori ddifyr, ond hefyd diolch i’r ffordd y daeth â holl aelodau Mess Up The Mess at ei gilydd i greu rhywbeth unigryw ac arbennig.

Er bod sioe’r Gaeaf wedi dod i ben, bydd Mess Up The Mess yn parhau i gynnig gweithdai drama wythnosol bob dydd Mawrth a dydd Iau ac yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys teithiau i’r theatr, Yfory, hyfforddiant Arwain Cyfoedion a’n prosiect Lleisiau Coll gyda Llamau.