Dewch i gwrdd ag Axe – Tŷ Hwyl Sydd Ddim Wir Yn Hwyl

Dewch i gwrdd ag Axe, maen nhw’n mynd i ddweud ychydig bach wrthych chi am y Tŷ Hwyl Sydd Ddim Wir yn Hwyl
“Mae ‘na lawer o’n straeon ni’n hunain, ein teimladau ni’n hunain, ac ry’n ni wir eisiau eu mynegi er mwyn i bobl eraill eu deall, ac er mwyn tynnu sylw at y mannau lle mae angen i bethau wella.”

Mae’r Tŷ Hwyl Sydd Ddim Wir yn Hwyl yn archwilio cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae’r gosodiad hwn sy’n cwmpasu’r gynulleidfa yn eich gwahodd ar daith trwy brofiad synhwyraidd â sawl ffurf ar gelfyddyd.

Mae Lleisiau Coll wedi bod yn grymuso lleisiau coll pobl ifanc sydd ddim wedi cael eu clywed yn draddodiadol, a hynny mewn ffordd greadigol. Pobl ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal. Pobl ifanc sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Pobl ifanc â phrofiad o iechyd meddwl. Pobl ifanc sy’n ei chael yn anodd ffeindio’u llwybr. Mae’r cyfle creadigol hwn wedi bod yn cefnogi pobl ifanc i ffeindio’u llais ac i ddatblygu, llunio a chreu eu darn o waith celf eu hunain ar raddfa fawr.

Mae pobl ifanc â chysylltiad â Llamau a Gwasanaethau Plant Abertawe wedi gweithio ochr yn ochr ag artistiaid er mwyn archwilio’n fanwl eu bywydau, eu profiadau, eu meddyliau a’u teimladau. Bydd y profiad artistig terfynol hwn yn chwyddo lleisiau’r cyfranogwyr ac yn sicrhau eu bod yn cael eu clywed. Byddwch chi, y gynulleidfa, yn ymgysylltu â’r byd y mae’r cyfranogwyr yn ei greu, a hynny ar delerau a ddiffinnir gan y cyfranogwyr. Gobaith y bobl ifanc yw y bydd y profiad hwn yn newid y ffordd yr ydych yn gweld ac yn cefnogi pobl ifanc yn eich gwaith ac yn eich bywyd yn ehangach.

 

 

Ariennir Lleisiau Coll trwy Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae wedi dod â Chwmni Theatr Mess Up The Mess, Llamau a Gwasanaethau Plant Dinas a Sir Abertawe at ei gilydd ar gyfer rhaglen 18 mis a mwy o weithdai creadigol. Y penllanw yw’r profiad artistig cyhoeddus hwn sydd ar raddfa fawr.