Cynhyrchydd Cymunedol Another Queer Christmas
Rhan amser – cyfystyr â 0.6 llawn-amser, 22.2 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol 2 flynedd o hyd, o Hydref 2023 (i’w gadarnhau)
£26,300 y flwyddyn pro rata
(£15,780 y flwyddyn gwir-dâl)
Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Cymunedol i fod yn aelod allweddol o’n tîm ar gyfer y prosiect Another Queer Christmas. Wedi’i ariannu gan gynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd y prosiect yn cysylltu cymunedau cwiar Abertawe dros gyfnod o 2 flynedd o weithgarwch creadigol, ac yn sefydlu mannau creadigol a chynhwysol lle gall cymunedau cwiar Abertawe ddathlu eu hunain a’u straeon. Uchafbwynt y gweithgarwch fydd Ffrwydrad Creadigol o ddigwyddiadau dros Nadolig 2024.
Gan weithio ochr yn ochr â’r artistiaid arweiniol, Bethan Marlow a Cerian Wilshere-Davies, mae gan y Cynhyrchydd Cymunedol rôl allweddol i’w chwarae drwy ymgysylltu â, a chefnogi’r gymuned, i gymryd rhan a sicrhau bod etifeddiaeth barhaol o greadigrwydd cwiar yn deillio o’r prosiect. Cefnogir y prosiect gan bartneriaeth o sefydliadau yn Abertawe, gan gynnwys Pride Abertawe, PYNK, Tîm Celfyddydau a Threftadaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, Mess Up The Mess a Urban Foundry. Y Cynhyrchydd Cymunedol fydd y cysylltiad allweddol ar lawr gwlad rhwng y partneriaid a chymunedau LGBTCi+ Abertawe.
I Ymgeisio
Rhaid i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais ymateb gyda ffurflen gais sy’n nodi’n glir sut yr ydych yn bodloni manyleb person y swydd. Ni fydd CVs yn cael eu derbyn.
Nodwch y bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fynd drwy broses Datgeliad Manwl a gwiriad Rhestr Waharddedig gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
AQC Community Producer JD and PS Cymraeg
Mae fformatau amgen ar gael ar gais gan work@messupthemess.co.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Awst 2023 10pm
Mae hwn yn brosiect 2 flynedd, a disgwylir iddo gychwyn ym mis Hydref 2023.
Cynhelir cyfweliadau yn Abertawe ar 1af a/neu 4ydd Medi.
I drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl, e-bostiwch work@messupthemess.co.uk .

