Edrych yn ôl ar Yfory
Rydyn ni wedi cael blwyddyn wych yn gweithio gyda thîm pobl ifanc a staff prosiect Dreamers – Oasis, Roots Foundation a Mess Up The Mess. Rydyn ni wedi gallu creu darnau creadigol o waith celf sy’n gwneud gwahaniaeth drwy’r prosiect Yfory. Fe wnaethon ni ofyn i bobl ifanc beth maen nhw eisiau ei newid neu ei feithrin o heddiw ymlaen, ar gyfer eu dyfodol.
Gyda’r prosiect Dreamers – Oasis, dan arweiniad Ali o Yellobrick, dewisodd y bobl ifanc feithrin bwyd ar gyfer eu dyfodol fel ffordd o ddathlu eu diwylliant a’i rannu. Fe fuon nhw’n creu ffilmiau sy’n rhannu ryseitiau’r bwydydd sy’n eu cysuro o’u gwledydd cartref. Yn ystod y digwyddiad rhannu, dangoswyd y ffilmiau, ac roedd cyfle i’r gynulleidfa flasu’r bwydydd hynny hefyd.
Gyda Roots Foundation, fe fu’r bobl ifanc yn creu ffilm fer yn y gair llafar/mewn rap, yn gofyn am gysondeb yn y dyfodol i bobl ifanc a phlant mewn gofal, yn enwedig o ran y gweithwyr cymdeithasol sy’n newid drwy’r amser. Yn ystod y digwyddiad rhannu, fe fuon nhw’n rhannu eu ffilm, a chrëwyd profiad cofleidiol o sut y gall deimlo i fod yn y system ofal. Rydyn ni’n hynod o gyffrous i gyhoeddi bod Cyngor Abertawe wir wedi clywed lleisiau’r bobl ifanc ac rydyn ni’n gyffrous i weld sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth, law yn llaw â’r bobl ifanc.
Gyda Mess Up the Mess, fe fu’r bobl ifanc yn creu darn o theatr i rannu materion ynghylch y rhyddid i chwarae heb boeni. Ysgrifennodd y bobl ifanc ar lwyfan Neuadd Gyhoeddus Brynaman y ddrama fer ar y cyd â Hefin Robinson; fe fu’r bobl ifanc yn annog rhieni heddiw a rhieni’r dyfodol i fod yn ddigon dewr i gefnogi mynediad at chwarae tu allan heb oruchwyliaeth.
Diolch i Gronfa’r Loteri Genedlaethol am ariannu ein prosiect anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc!









