MUTM wedi sicrhau cyllid Prif Grant Gwirfoddoli Cymru

Mae’n bleser gennym rannu’r newyddion ein bod wedi sicrhau cyllid Prif Grant Gwirfoddoli Cymru ar gyfer ein Prosiect Gwella a Chyfoethogi’r Profiad o Wirfoddoli i Bobl Ifanc. Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Bydd y prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli deniadol o ansawdd uchel a hyfforddiant i bobl ifanc yn Rhydaman a Dyffryn Aman. Bydd yn ymgysylltu, yn hyfforddi ac yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i wirfoddoli gyda Mess Up The Mess, yn sesiynau rheolaidd MUTM ac mewn prosiectau creadigol. Mae yna 2 brif llinyn er mwyn i bobl ifanc wirfoddoli:

  • Bydd Gwirfoddolwyr Technegol Cymunedol (11 – 25) yn cael eu hyfforddi gan weithwyr proffesiynol profiadol o’r diwydiant, i weithredu offer technegol (gan gynnwys offer sain, goleuadau theatr ac offer fideo) a gwirfoddoli ar gyfer digwyddiadau MUTM ac eraill yn y gymuned.
  • Bydd Gwirfoddolwyr Arweinwyr Cyfoedion (16+) yn cael hyfforddiant gan hwyluswyr profiadol MUTM i’w dysgu sut i gynllunio a chyflwyno gweithdai a phrosiectau dan arweiniad cyfoedion. Byddant yn gwirfoddoli gyda MUTM a grwpiau lleol eraill ac yn cymryd rhan yng ngweithgorau a grwpiau llywio pobl ifanc MUTM, gan helpu i ddylunio prosiectau a rhaglenni gwaith newydd.

Mae Mess Up The Mess wedi cael ei achredu yn ddiweddar fel Canolfan Arts Award. Trwy eu hyfforddiant a’u profiad o wirfoddoli, bydd gwirfoddolwyr ifanc nawr yn ennill Gwobrau Arts Award  Archwilio ac Efydd. Bydd Mess Up The Mess hefyd yn cydnabod cyraeddiadau gwirfoddolwyr ifanc mewn digwyddiad dathlu blynyddol dan arweiniad pobl ifanc (wedi’i greu, ei gynllunio a’i gyflwyno gan y gwirfoddolwyr eu hunain), gan arddangos eu cyraeddiadau i deuluoedd, ffrindiau a’r gymuned ehangach.

Os ydych chi’n unigolyn ifanc sydd â diddordeb yn unrhyw rai o’r cyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â Jay Smith (Cydlynydd Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr) Jay@messupthemess.co.uk