
Gallwch ddilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol
@queertawe – Facebook, Instagram & Twitter

AM QUEERTAWE
Mae’r prosiect hwn yn gyfle i gysylltu pobol a chymunedau LHDTC+ Abertawe mewn cyfres o weithdai creadigol, yn archwilio a dysgu drwy brofiadau a theithiau bywyd ein gilydd.
Byddwn yn dod â’r gymuned LHDTC+ ynghyd ag artistiaid creadigol cwîar mewn gweithdai misol mewn sgwennu, perfformio, celfyddydau gweledol a cherddoriaeth, yn cychwyn Ionawr 2024.
Bydd y prosiect rhyng-genhedlaethol yma yn sicrhau gofod saff, creadigol a chynwysiedig i bobol cwîar Abertawe gael dathlu eu hanes, gyda phopeth yn dod at eu gilydd mewn ffrwydriad credigol o ddigwyddiadau Nadolig 2024.
