Braf ac yn falch o fod wedi ennill 2 wobr!

Mae Mess Up The Mess yn falch iawn o fod wedi ennill categori Prosiect Cymunedol ac Addysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Effaith Ddiwylliannol cyntaf Cymru, sy’n cael eu trefnu gan Get The Chance!    

Cafodd Mess Up The Mess ei gydnabod am ein theatr a’n prosiectau ieuenctid rheolaidd. Mae pobl ifanc yn ymarfer amrywiaeth o sgiliau drama creadigol, yn datblygu eu hunan-barch a’u hyder, yn lleisio’u barn a’u profiadau ac yn gwneud ffrindiau newydd, mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae llawer o bobl ifanc yn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn cynyrchiadau ac yn ymuno â phrosiectau eraill Mess Up The Mess.

Mae un o’n cyn-fyfyrwyr, Cerian Wilshire-Davies, yn esbonio:

Wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad, ac yn dod o deulu dosbarth gweithiol, prin iawn oedd y cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn unrhyw beth tu allan i grwpiau chwaraeon, a dosbarthiadau am dâl. Roeddwn i’n gallu bod yn rhan o Mess Up The Mess am ddim, ac roedd yn lle i fi fagu hyder, gwneud ffrindiau ac ymgysylltu’n greadigol mewn ffyrdd na fyddwn i wedi gallu eu gwneud hebddyn nhw. Fe fues i’n cymryd rhan mewn prosiectau theatr a chelfyddydau di-ri ac roedd hyn wedi fy annog i archwilio fy hunaniaeth a themâu a oedd yn bwysig i fi ac i eraill o ‘nghwmpas i. Roedd MUTM hefyd wedi fy annog ac wedi cynnig hyfforddiant i fi i ddatblygu fy sgiliau hwyluso, trwy ei hyfforddiant Arweinydd Cyfoedion a chyfleoedd i fi gefnogi mewn sesiynau. Ar ôl graddio, roeddwn i wedi gallu gwneud interniaeth gyda MUTM ac mae hyn wedi arwain at gymaint o rolau mewn lleoliadau celfyddydau cymunedol. Rydw i nawr yn bartner i Mess Up The Mess fel Artist Arweiniol ar brosiect Queertawe. Ers ymuno â MUTM fel unigolyn ifanc dros 15 mlynedd yn ôl, mae wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd, a fyddwn i ddim lle rydw i nawr hebddyn nhw’

Cafodd cyn-Swyddog Celfyddydau Ieuenctid Mess Up The Mess, Joanne Shackley, ei chydnabod hefyd fel Hwylusydd y Flwyddyn am ei gwaith ar ein prosiect diweddar, Yfory. Gweithiodd Joanne gyda 9 sefydliad partner amrywiol ar draws Cymru, a’u cefnogi i gynhyrchu prosiectau gweithredu cymdeithasol creadigol am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u dyfodol.

Rydyn ni mor falch, ac yn teimlo mor freintiedig, o gael ein cydnabod ochr yn ochr â sefydliadau, pobl a phrosiectau mor ysbrydolgar. Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu henwebu a phob un a enillodd wobr, gan gynnwys ein ffrindiau People Speak Up, Cwmni Theatr Taking Flight, UCAN Productions, Owen Thomas a Theatr Na nOg. Diolch yn fawr iawn i Get The Chance am ddangos y gwahaniaeth y mae ein holl sefydliadau yn ei wneud, ac i Porter’s Caerdydd am gynnal digwyddiad mor brydferth.

Roedden ni wedi cyrraedd y rhestr fer mewn 3 chategori yn y Gwobrau Effaith Ddiwylliannol:

Prosiect Cymunedol ac Addysgol y Flwyddyn

Enwebeion

The Fight Company, Thear na N’Og

Little Gigs Bach, The Little Gigs Team a Cerdd CF, Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd

Cwmni Theatr Mess Up The Mess gyda ffocws ar y Theatr Ieuenctid rheolaidd a’i phrosiectau (Enillydd)

Hwylusydd y Flwyddyn

Enwebeion

Sara Sirati, Ardour Academy, Creu a Chysylltu

Steph Bailey Scott, Cwmni Theatr Taking Flight, Theatr Ieuenctid Taking Flight/You’ve Got Dragons/Cyflwyniad i Weithio’n Gynhwysol/Hyfforddiant Ymwybyddiaeth am y Byddar

Joanne Shackley, Cwmni Theatr Mess Up The Mess, Prosiect Yfory (Enillydd)

Diwylliant a Iechyd

Enwebeion

People Speak Up, Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref (Enillydd)

Sara Sirati ac Anna Coviello, Ardour Academy LTD, Butterfly Soup

Artistiaid, staff, partneriaid a chyfranogwyr Queertawe, prosiect Cysylltu a Ffynnu gan Gwmni Theatr Mess Up The Mess mewn partneriaeth â Bethan Marlow, Cerian Wilshire-Davies, Pride Abertawe, SwanScene a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Queertawe a Ffrinj Queertawe