Llefydd sy’n cynnig Cefnogaeth a Chyngor
Dyma ambell le y galli di eu ffonio, anfon neges destun atynt ac anfon neges atynt os wyt ti angen cymorth neu gefnogaeth

ChildLine – cysuro, cynghori ac amddiffyn plant 24 awr y dydd 0800 1111
Cwnsela ar-lein: https://www.childline.org.uk/get-support/1-2-1-counsellor-chat/

The Mix – cymorth hanfodol i bobl ifanc dan 25 oed
0808 808 4994 11am-11pm bob dydd
Sgwrsio – www.themix.org.uk/get-support/speak-to-our-team

Y Samariaid – Ry’n ni’n cynnig lle diogel i ti siarad pryd bynnag fyddi di eisiau siarad, yn dy ffordd di – am beth bynnag sy’n dy boeni. ‘Does dim rhaid i ti fod yn teimlo dy fod eisiau lladd dy hun.
Ffonia ni yn rhad ac am ddim: 116 123 (24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos)

Llinell Gymorth Meic – Meic yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru rhwng 0 a 25 oed.
Yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim, dros y ffôn (08088023456), trwy neges destun (84001) neu trwy sgwrsio ar-lein trwy ein gwefan. Rydyn ni ar gael o 8am tan hanner nos bob diwrnod o’r flwyddyn.

HOPELineUK – gwasanaeth cymorth a chyngor cyfrinachol i: Bobl ifanc dan 35 oed sydd efallai’n meddwl am hunanladdiad, neu unrhyw un sy’n poeni y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.
Ffôn: 0800 068 41 41 Neges destun: 07786209697 E-bost: pat@papyrus-uk.org
Oriau agor: 10am-10pm yn ystod yr wythnos, 2pm-10pm ar benwythnosau, a 2pm-5pm ar Ŵyl y Banc 
Gwasanaethau Brys
Os wyt ti’n teimlo dy fod eisiau diweddu dy fywyd, ceisia help ar unwaith gan y gwasanaethau brys ar 999, neu os wyt ti’n credu bod bywyd rhywun neu dy fywyd di mewn perygl, ffonia 999 neu 101 i siarad â’r gwasanaethau brys am gymorth
