Gweithdy Croeso Yfory

Gweithdy Croeso Yfory

Gan Poppy Wilgrass Hyfforddai MUTM

 

Ar 21 Ionawr, daeth y tri grŵp sy’n rhan o brosiect Yfory eleni, at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithdy Croeso. Nod prosiect Yfory yw defnyddio offerynnau hygyrch, creadigol i rymuso pobl ifanc i holi cwestiynau pwysig am eu dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda 3 grŵp o bobl ifanc amrywiol ledled De Cymru bob blwyddyn; a bydd pob un yn datblygu ei ymyriadau creadigol ei hun er mwyn gwella dyfodol ei gymuned. Gallai’r ffocws fod ar:

1. Newid hinsawdd
2. Niweidio’r amgylchedd
3. Swyddi’r dyfodol ac effaith technoleg ar hyn
4. Anghydraddoldeb a Gwahaniaethu
5. Gwrthdaro neu gamddealltwriaeth rhwng cymunedau ….

Ac mae’r rhestr yn parhau. Dyma ambell un o’r awgrymiadau gan y bobl ifanc fuon ni’n eu holi. Roedd y gweithdy Croeso yn gyfle i bob un o’r grwpiau i gwrdd am y tro cyntaf, ond roedd hefyd yn gyfle i ddatblygu eu syniadau ar gyfer y prosiect Yfory.

Mae’r tri grŵp sy’n rhan o’r prosiect yn cynrychioli ardaloedd gwahanol yn Ne Cymru. The Point, sef grŵp Ieuenctid yng Ngogledd Sir Benfro sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 11 i 25 oed ac yn helpu gydag unrhyw rwystrau y maen nhw’n eu hwynebu. Tŷ Hafan, sef elusen sy’n rhoi help a chefnogaeth i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, a’u teuluoedd. Ac yn olaf, pobl ifanc o Rydaman sy’n rhan o Mess Up The Mess. Daeth y tri grŵp unigryw hyn, sy’n darparu cyfleoedd a chefnogaeth i bobl ifanc, at ei gilydd i drafod eu syniadau ar gyfer y prosiect a hefyd i ddod i ‘nabod ei gilydd. Er y bydd pob grŵp yn creu ei brosiect ei hun yn y pendraw, byddant hefyd yn gweithio ar brosiect ar y cyd yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ac felly roedd dod i ‘nabod ei gilydd yn gynharach yn y prosiect yn fuddiol iawn ac yn werth chweil.

Yn ystod y gweithdy croeso, fe fu’r tri grŵp gwahanol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gêmau a gweithgareddau, a gynlluniwyd i ysbrydoli creadigrwydd, egni a pharch ond hefyd i fodloni anghenion mynediad ac anabledd y cyfranogwyr. Un o’r buddion o gael grwpiau mor wahanol ac unigryw o ardaloedd gwahanol yng Nghymru, yw ei fod yn tynnu sylw at y materion gwahanol niferus y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ac yn pryderu amdanynt. Roedd rhai o’r testunau a drafodwyd ymhlith y grwpiau’n cynnwys hawliau pobl LHDC, Ymgyrchu dros yr Amgylchedd, Hawliau Plant, Addysg a’r Gymuned. Roedd yna artist i gefnogi pob grŵp hefyd er mwyn eu tywys trwy eu syniadau ac i awgrymu ffyrdd posibl o’u cyflwyno. Yn ystod y gweithdy, fe fu pob grŵp yn cyflwyno’u syniadau mewn amrywiaeth o ffyrdd unigryw. Ac fe fu’r grwpiau’n archwilio ffurfiau ar gelfyddyd fel drag, ffasiwn, cerflunio, perfformio a chelf i gyflwyno’u syniadau i’r grwpiau eraill.

Ar y cyfan, roedd y gweithdy croeso yn fewnwelediad gwych i’r pethau cyffrous a diddorol sydd i ddod gan brosiect Yfory eleni. Allwn ni ddim aros i weld beth fydd ffrwyth llafur Mess Up The Mess, The Point a Tŷ Hafan.