Hyfforddai Celfyddydau Ieuenctid

Hyfforddai Celfyddydau Ieuenctid

Rôl hyfforddai gyda thâl. (3 diwrnod yr wythnos, am 4 mis, yn dechrau ym mis Medi 2022. Cyflog Byw Gwirioneddol – £11,428.56 y flwyddyn yw’r cyflog gwirioneddol; £952.38 y mis)

Rydym yn chwilio am Hyfforddai Celfyddydau Ieuenctid i weithio ar ein prosiect Academi’r Celfyddydau Ar Ôl Oriau Arferol. Mae’r rôl hon yn ddelfrydol i rywun sy’n dechrau ar eu taith yn y celfyddydau neu’n ystyried gyrfa yn y celfyddydau. Mae’n cyfuno profiad ymarferol o gefnogi gweithdai creadigol gyda chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac i ddysgu. Mae brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu yn bwysicach na phrofiad penodol. Mae empathi a’r gallu i uniaethu â chyfranogwyr y prosiect yn bwysicach na’ch cymwysterau.

Rhagor o Wybodaeth am Brosiect Academi’r Celfyddydau Ar Ôl Oriau Arferol

Mae Academi’r Celfyddydau Ar Ôl Oriau Arferol yn brosiect peilot sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Pontardawe ac mae’n creu sgiliau technegol a throsglwyddadwy ymhlith pobl ifanc yn ardal Pontardawe a’r cyffiniau. Rhaglen o flwyddyn yw’r prosiect, ac mae’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau creadigol a thechnegol a gweithgareddau a fydd yn:

  • uwchsgilio pobl ifanc gyda sgiliau celfyddydau creadigol ymarferol, theatr dechnegol a chelfyddydau a chyfryngau digidol
  • datblygu hyder pobl ifanc, a sgiliau cyfathrebu a gweithio fel tîm
  • tynnu ar weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant er mwyn darparu hyfforddiant a bod yn fodelau rôl positif i gyfranogwyr
  • ehangu gorwelion pobl ifanc sydd efallai heb ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol
  • rhoi sylw i fwlch a gydnabyddir yn y gweithlu theatr technegol yng Nghymru
  • annog pobl ifanc sydd heb ymgysylltu â’r celfyddydau yn flaenorol i groesi trothwy’r Ganolfan Celfyddydau am y tro cyntaf
  • rhoi cyfleoedd hyblyg am achrediad i bobl ifanc trwy Arts Award

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • Academi’r Celfyddydau Ar Ôl Oriau Arferol: 8 × cwrs 6-wythnos byr anffurfiol yn y disgyblaethau creadigol, technegol a digidol. Bydd y cyrsiau’n cael eu cyflwyno gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cynigir cyrsiau mewn Ffasiwn, Cynhyrchu Cerddoriaeth, Actio ar gyfer y Sgrin, Ffotograffiaeth, Gwneud Ffilmiau, y Celfyddydau Gweledol, Graffiti ac Ysgrifennu Sgriptiau. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn cael yr hyblygrwydd i roi tro ar gwrs a symud at gwrs arall os na fydd y cwrs cyntaf yn plesio
  • Techin’ It Live: cwrs hyfforddiant dwys, wythnos o hyd, mewn sgiliau theatr technegol, gyda chyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan i droi eu llaw at holl rolau tîm cynhyrchu, dan diwtoriaeth a mentoriaeth gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Penllanw hyn fydd cynhyrchiad byw yn y Ganolfan Celfyddydau, gyda’r rheiny sydd wedi bod ar y cwrs yn perfformio ac yn gwneud y gwaith technegol.
  • Academi Fyw! : wythnos o brosiect datblygu creadigol dwys. Trwy adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd yn Academi’r Celfyddydau Ar Ôl Oriau Arferol, bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn gweithio gydag artistiaid proffesiynol i greu gwaith a’i rannu yn y Ganolfan Celfyddydau.
  • Achrediad hyblyg ar sail portffolio i’r rheiny sy’n cymryd rhan trwy Arts Award. Gall y rheiny sy’n cymryd rhan gymryd y sgiliau a’r profiad o holl elfennau’r prosiect a’u defnyddio fel tystiolaeth i gael gwobr Explore neu Bronze (FfCC lefel1).

Mwy am y Rôl

Bydd yr Hyfforddai Celfyddydau Ieuenctid yn gweithio yn swyddfa Mess Up The Mess ac yn cefnogi’r gwaith o redeg y prosiect. Bydd yn helpu rhedeg gweithdai creadigol gyda chyfranogwyr ac yn helpu cydlynu’r prosiect. Bydd cyfleoedd i ddysgu o weithgareddau eraill Mess Up The Mess, arsylwi arnynt a’u cefnogi. Gan mai cyfle i ddatblygu yw hwn, i rywun sy’n dechrau yn y celfyddydau, byddwn yn eich cefnogi i archwilio’ch llwybr gyrfa ar gyfer y dyfodol, trwy eich cael i ymgysylltu â phob agwedd ar waith Mess Up The Mess a, lle’n bosibl, gwaith sefydliadau eraill y mae Mess Up The Mess yn gweithio gyda nhw.

Disgrifiad Person

Nid oes angen unrhyw  brofiad penodol ar gyfer y rôl hon. Mae wedi ei chynllunio i greu cyfle i rywun sy’n dechrau gyrfa yn y celfyddydau, neu sy’n ystyried dechrau gyrfa yn y celfyddydau.

This role will be based in the Mess Up The Mess office in Ammanford however activity will take place in Pontardawe and there may be opportunities to work in the Arts Centre at different times, there may also be the opportunity to work from home at points. The postholder will need the ability to work in Ammanford and travel to Pontardawe, for which expenses will be paid.

Rydym eisiau i chi fod â:

  • Diddordeb yn y celfyddydau a brwdfrydedd ynghylch gweithio mewn amgylchedd celfyddydau
  • Parodrwydd i gymryd rhan mewn gêmau gwaith ieuenctid a drama a gweithgareddau creadigol
  • Diddordeb mewn cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial
  • Parodrwydd i ddysgu pethau newydd
  • Gallu i fod yn fodel rôl bositif ar gyfer cyfranogwyr gan gynnwys bod yn gwrtais ac yn barchus tuag at gydweithwyr a chyfranogwyr
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da
  • Hyder i ddefnyddio TGCh er mwyn gwneud tasgau syml fel anfon negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, llenwi ffurflenni ar-lein ac ysgrifennu negeseuon e-bost
  • Sgiliau ymarferol i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
  • Gallu i fod yn ddibynadwy a chadw amser yn dda
  • Gallu i weithio heb oruchwyliaeth ar adegau, yn ôl yr angen
  • Gallu i ddilyn rheolau a gweithdrefnau
  • Gallu i weithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau
  • Gallu i weithio gartref a, phan fydd cyfyngiadau Covid yn llacio, o’r swyddfa yn Rhydaman
  • Gallu i deithio i weithdai yn Abertawe, a thelir treuliau am hyn

Yn ogystal, byddai’n fantais (ond nid yn hanfodol) i chi:

  • Fod â rhywfaint o brofiad o weithio neu wirfoddoli mewn rôl lle rydych wedi helpu pobl
  • Siarad Cymraeg

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus basio gwiriad gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae gofyn i bob aelod o’n staff wneud hyn gan fod ein gwaith yn golygu gweithio gyda phobl ifanc.

Disgrifiad Swydd

Fel yr Hyfforddai Celfyddydau Ieuenctid, byddwch yn:

  • Cefnogi’r gwaith bob-dydd o redeg y prosiect Lleisiau Coll
  • Gwneud tasgau gweinyddol gan gynnwys trefnu safleoedd a chymryd cofrestrau
  • Cynorthwyo i gynllunio gweithdai creadigol, a nodi pa offer a deunyddiau sydd angen
  • Casglu adnoddau a pharatoi deunyddiau ar gyfer gweithdai creadigol gyda phobl ifanc
  • Cefnogi staff y prosiect sy’n rhedeg gweithdai creadigol, er enghraifft trwy osod offer a deunyddiau cyn sesiynau a sicrhau bod popeth yn cael ei roi heibio ar y diwedd
  • Cynorthwyo cyfranogwyr yn ystod gweithdai creadigol trwy fod yn fodel rôl positif a chymryd rhan ymhob tasg greadigol
  • Bod yn bwynt cyfathrebu rhwng cyfranogwyr a staff y prosiect
  • Rhannu gwybodaeth gyda chyfranogwyr am weithgareddau sydd ar droed, trwy anfon negeseuon ac ymateb iddynt
  • Ysgrifennu postiadau a phostio ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r prosiect
  • Tynnu ffotograffau a ffilmio fideos i helpu adrodd stori’r prosiect  ac i’w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn adroddiadau i gyllidwyr
  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygiad er mwyn datblygu eich gyrfa eich hun yn y celfyddydau
  • Dod â’ch diddordebau a’ch sgiliau eich hun i’r prosiect a chael profiad proffesiynol o’u defnyddio
  • Bod yn rhan o dîm Mess Up The Mess a chyfrannu at yr ystod lawn o gyfleoedd creadigol yr ydym yn eu darparu ar gyfer pobl ifanc
  • Dilyn polisïau a gweithdrefnau Mess Up The Mess yn eich gwaith ar bob adeg
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn llyfn

Sut i Ymgeisio

Gallwn dderbyn ceisiadau ar ein ffurflen gais yn unig. Lawrlwythwch y ffurflen:

Intern Application Form – Nov 23

Gofynnir i chi esbonio sut yr ydych yn bodloni gofynion y rôl fel y disgrifir yn y Disgrifiad Person (uchod). Meddyliwch yn ofalus am eich profiad (gan gynnwys yr ysgol a’r coleg, diddordebau, hobïau a gweithgareddau, gwirfoddoli neu gyfrifoldebau gofal) a sut mae hyn yn dangos eich bod yn bodloni gofynion y rôl.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Thursday 14th December 2023 at 1.00 pm. Ni allwn dderbyn ceisiadau sy’n dod i law ar ôl yr amser hwn.

Byddwn yn tynnu rhestr fer o ymgeiswyr yn ôl pa mor dda maen nhw’n bodloni gofynion y rôl a ddisgrifir yn y Disgrifiad Person. Os ydych wedi cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i ddod i gyfweliad Wednesday 19th Dec 2023 in Pontardawe

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, neu os hoffech siarad â rhywun amdani, e-bostiwch ni ar helo@messupthemess.co.uk ac fe drefnwn ni amser i siarad.

Sylwer: mae’r cyfnod hyfforddai am dâl yn para 4 mis. Mae’n gyfle am gyfnod penodol ac nid oes posibilrwydd o’i ymestyn.

“Mae’r prosiect Academi’r Celfyddydau Ar Ôl Oriau Arferol hwn, wedi cael £64,304.16 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU”