Lleisiau Coll

Lleisiau Coll

Gan Poppy Wilgress, Hyfforddai Lleisiau Coll

 

Er 2021, mae Mess Up The Mess wedi bod yn gweithio gyda Llamau a Gwasanaethau Plant Dinas a Sir Abertawe ar brosiect ‘Lleisiau Coll’. Nod y prosiect oedd cynnig llais creadigol i’r rheiny sydd heb gael eu clywed yn draddodiadol. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd, sydd wedi bod mewn perygl o fod yn ddigartref, sydd wedi bod trwy’r system gofal maeth a/neu sydd wedi cael trafferthion iechyd meddwl.

Yn ystod y prosiect hwn, rydym wedi cynnal sesiynau bob pythefnos yn Abertawe a Chaerdydd. Cynigiwyd amrywiaeth o weithdai creadigol i bobl ifanc, er mwyn eu helpu i danio ysbrydoliaeth a datblygu syniadau ar gyfer eu digwyddiad celfyddyd gyhoeddus byw eu hunain ym mis Gorffennaf 2023.

Yn y gweithdai hyn, mae’r cyfranogwyr wedi bod yn gweithio gydag artistiaid amrywiol fel Ndidi John, cyd-hwylusydd arweiniol ac awdur y prosiect, sydd wedi gweithio’n helaeth gyda’r grŵp ac wedi rhannu ei sgiliau gyda’r gair llafar, datblygu cymeriadau ac ysgrifennu sgriptiau. Mae Cyfarwyddwr Artistig MUTM, Sarah Jones, yn cyd-hwyluso’r prosiect ochr yn ochr â Ndidi ac wedi bod yn rhannu technegau drama a dyfeisio gyda’r grŵp. Mae unigolion eraill fel Ami Marsden yn arbenigo mewn cerflunio a chelf 3D ac yn arwain ar ddylunio. Gyda’u cymorth nhw, mae’r cyfranogwyr wedi gallu archwilio amrywiaeth o destunau cymhleth ac anodd fel; Iechyd Meddwl, Crefydd, Awdurdod, Gofal Iechyd, Gwahaniaethu a Gwirioneddau Digartrefedd. Mae’r prosiect wedi cynnig man creadigol, diogel lle gall y bobl ifanc hyn fynegi eu hunain a dysgu sgiliau newydd ar hyd y daith. Mae’r elfen hon wedi bod yn amhrisiadwy i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect a bydd y broses o greu eu digwyddiad byw yr un mor bwysig â’r canlyniad.

Y cysyniad cyfredol wrth symud ymlaen, y mae’r cyfranogwyr a’r artistiaid wedi ei ddatblygu yn ystod y sesiynau hyn, yw perfformiad sy’n cwmpasu’r gynulleidfa a gosodiad sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng digartrefedd ac iechyd meddwl. Mae’r ‘Tŷ Hwyl Sydd Ddim Wir yn Hwyl’ yn cynnwys mannau sy’n cynrychioli Meddygfa, Man Addoli, ‘Y Crachach’, ‘Uffern/Nefoedd’ a ‘Beth sy’n gwneud tŷ yn gartref’. Ymhob ystafell fe fydd amrywiaeth o ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd, waeth a yw hynny’n berfformiad, cerflunwaith, celfyddyd gain, ffilm, cerddoriaeth, barddoniaeth a chymaint mwy. Ond, yn fwy pwysig, fe fydd pob ystafell yn ‘brofiad’ y gall aelodau’r gynulleidfa gymryd rhan ynddo. Bydd gwesteion yn cael eu hannog i chwarae rhan weithgar, ac yn cael propiau, yn cael eu cyfarch gan y perfformwyr a hyd yn oed yn chwarae gêmau yn rhan o’r mannau hyn. Bydd hwn yn brofiad difyr a diddorol i berfformwyr, artistiaid a gwesteion ac mae wedi’i ddylunio i herio cynulleidfa o bobl sy’n dod i benderfyniadau, a’r cyhoedd yn gyffredinol, i newid y ffordd y mae pobl ifanc sy’n dod yn oedolion yn cael eu cefnogi, neu ddim yn cael eu cefnogi, gan gymdeithas.

Mae’r bartneriaeth yn edrych ymlaen at yr hyn y mae’r bobl ifanc a’r artistiaid yn ei ddatblygu a byddan nhw’n parhau i’w cefnogi a’u tywys ar hyd y daith.