Puss in Cahoots

Puss in Cahoots

Puss in Cahoots
Dyfeisiwyd gan y Cwmni a Katy Owen

Mae’r actorion yn aros amdanoch mewn canolfan gymunedol yn rhywle sy’n drewi o bolognese a bochdew.

Maen nhw wedi bod yn troi i fyny ar amser (gan fwyaf) ers mis Medi, yn llawn tinsel, ffrwythau sych ac yn mwmian pennill fach lon o ‘Dawel Nos’. Maen nhw’n barod i’ch difyrru ac yn mynd i drio’u gorau glas (a gwyrdd a choch) … (Ond, mae Kylie ar y bws anghywir ac yn anelu at y Mwmbwls a Tyler wedi gorfod mynd yn ôl at ei Nain am nad yw hi’n gallu dod o hyd i allwedd drws y cefn.)

Ond, rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen, a rhyw ffordd mae’n mynd i…

Cyflwynwyd Puss in Cahoots rhwng 12 Rhagfyr 2014 a 14 Rhagfyr 2014 yn Theatr y Glowyr Rhydaman.

Rehearsing the Band

Y Cyfarwyddwr Cerdd, Dan Lawrence yn ymarfer gyda’r band

Eleni, roedd y Sioe Nadolig, Puss in Cahoots, yn cynnwys dros 50 o bobl ifanc 11–25 oed sy’n cymryd rhan yn ein gweithdai wythnosol rheolaidd dan arweiniad artistiaid proffesiynol. Fe fu’r bobl ifanc yn gweithio gyda’r Awdur-Cyfarwyddwr Katy Owen i ddyfeisio’r sioe, gan greu golwg amgen ac unigryw ar y Sioe Nadoligaidd draddodiadol, gyda chyfanswm o chwech (cyfrwch nhw) Pws gwahanol.


Diolch i nawdd gan CAVS a Grant Arweiniad Ieuenctid GwirVol, fe weithiodd y tiwtor iaith arwyddion, Sami Thorpe, gyda ni i greu cân mewn iaith arwyddion ar gyfer y ffinale, fel bod ein cynhyrchiad hyd yn oed yn fwy cynhwysol.

Daeth dawnswyr o grwpiau dawns a theatr lleol Starquest a Statik i ymuno â phobl ifanc Mess Up The Mess.