Ry’n ni wedi llunio rhaglen lawn o weithgareddau ar-lein ar gyfer yr haf. Gobeithio y bydd rhywbeth ynddi i chi ei fwynhau.
Bob dydd Llun, byddwn yn rhedeg Labordy Creu: Eich cyfle chi i fod yn rhan o’r tîm datblygu ar gyfer ein sioe nesaf. Gweithdai Zoom wythnosol trwy gydol gwyliau’r haf yn arwain at greu ein sioe nesaf. Bydd heriau creadigol wythnosol ac ysbrydoliaeth greadigol yn sbarduno eich sgiliau dyfeisio. Bydd pob her greadigol ar gael tu allan i’r sesiynau fel bod y rheiny sy’n ffafrio bod yn greadigol all-lein yn gallu cymryd rhan hefyd.
Bob dydd Mercher a dydd Gwener, mae gennym Ddosbarthiadau Meistr Creadigol lle bydd artistiaid creadigol blaenllaw yn rhannu eu sgiliau mewn gweithdai ymarferol sy’n llawer o hwyl. Bydd cyfle i archwilio dylunio set, creu cymeriadau, dylunio gwisgoedd, cynhyrchu radio a gwneud ffilmiau.
Bob dydd Iau, bydd cyfle i ymlacio gyda Gweithgareddau Cymdeithasol MUTM – ychydig o hwyl dros yr haf, gan gynnwys coffi a chacen, y-cwis-sydd-ddim-yn-gwis, gêmau bwrdd, grŵp llyfrau a dychweliad ein Noson Wobrwyo fel Dawns Mygydau.
A, ganol haf, byddwn yn cynnal “Mae i Fyny i Ti. Dyfodol Mess Up The Mess” – wythnos o weithgareddau pan fydd cyfle i chi helpu penderfynu beth mae Mess Up The Mess yn ei wneud nesaf.
Byddwn yn rhedeg y Rhaglen Haf ar-lein – gan ddefnyddio sianelau gwahanol fel bod pawb yn dod o hyd i rywbeth sy’n gyffyrddus iddyn nhw. Ry’n ni’n gweithio ar gynllun ar gyfer dychwelyd at weithgareddau mwy normal pan fydd Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ni wneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny dim ond pan fyddwn ni’n teimlo ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny. A byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n ddiogel. Gallai hyn olygu ein bod yn rhedeg gweithgareddau mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer.
Cofiwch ein bod ni ar ddiwedd y ffôn, neges destun neu neges uniongyrchol, a buasen ni’n dwlu clywed gan unrhyw rai ohonoch, am sgwrs neu os ydych chi angen cymorth gydag unrhyw beth o gwbl.
Os hoffech chi ymuno yn unrhyw rai o’r gweithgareddau hyn, neu os ydych chi eisiau cysylltu am unrhyw reswm, gallwch chi wneud hynny:
- gallwch ein cyrraedd ni ar Twitter, FaceBook neu Instagram: @MessUpTheMess
- anfon neges atom trwy e-bost: hello@messupthemess.co.uk
- neu anfon neges destun atom: 07451 270 720
| BOB DYDD LLUN | BOB DYDD MERCHER A DYDD GWENER | BOB DYDD IAU | |
| Labordy Creu 5.30 – 7pm (Zoom ac All-lein) |
Dosbarthiadau Meistr Creadigol 1.30 – 4.00 pm (Zoom a YouTube) |
Gweithgareddau Cymdeithasol MUTM Amserau i’w cadarnhau (Zoom) |
|
| GORFFENNAF 20–24 |
Crynodeb o’r Capsiwl Amser Coronafeirws 20 Gorffennaf |
Dosbarth Meistr Dylunio Set gyda Charlotte Neville 22 a 24 Gorffennaf |
Coffi a Chacen 23 Gorffennaf 4pm |
| GORFFENNAF 27-31 |
Labordy Creu 27 Gorffennaf |
Creu Cymeriadau gydaKaty Owen 29 a 31 Gorffennaf |
Noson Cwis Sydd Ddim yn Gwis MUTM 30 Gorffennaf |
| AWST 3–7 |
Labordy Creu 3 Awst |
Mae i Fyny i Ti. Dyfodol Mess Up The Mess | Dim Sesiwn |
| AWST 10–14 |
Labordy Creu 10 Awst |
Dosbarth Meistr Gwisgoedd gyda Bethany Seddon 12 a 14 Awst |
Noson Gêmau Bwrdd 13 Awst |
| AWST 17–21 |
Labordy Creu 17 Awst |
Dosbarth Meistr Radio 19 a 21 Awst |
Grŵp Llyfrau 20 Awst |
| AWST 24-28 |
Labordy Creu 24 Awst |
Dosbarth Meistr Ffilm gyda Jonathan Dunn 26 a 28 Awst |
Dawns Mygydau a Noson Wobrwyo 27 Awst |

