
Rydym yn gyffrous iawn i rannu bod ein ffilm fer treftadaeth ‘Straeon o Bontardawe’ yn cael ei ddangos am y tro cyntaf am 6yh ar y 27ain o Dachwedd yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe.
Dewch i weld amryw o straeon o Bontardawe yn dod yn fyw trwy ffilm, perfformiad ac efallai ychydig o gân!
Yn dilyn y ffilm bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda rhai o’r artistiaid a’r cyfranogwyr a gymerodd ran.
Fel rhan o’r digwyddiad hwn byddwn hefyd yn arddangos darnau o waith a grëwyd yn ystod y gweithdai wythnosol ac yn cyd-fynd â gweithdai treftadaeth ysgolion lleol.
Bydd y drysau’n agor am 5:30yh felly dewch i fwynhau popcorn ac edrych ar ein harddangosfa cyn mynd i mewn i wylio’r ffilm
Mae gwahoddiad i chi wisgo i fyny gyda’r holl ddisgleirdeb a glam y dylai première ei gael!
Gallwch archebu eich tocynnau am ddim trwy’r ddolen yn ein bio neu drwy wefan Canolfan Gelfyddydau Pontardawe!
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
