Mae Lleisiau Coll wedi bod yn archwilio lleisiau coll pobl ifanc sydd heb gael eu clywed yn draddodiadol, mewn ffordd greadigol. Pobl ifanc â phrofiad o’r system ofal. Pobl ifanc sy’n profi digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Pobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl. Pobl ifanc sy’n ei chael yn anodd ffeindio’u llwybr. Mae’r cyfle creadigol hwn wedi bod yn cefnogi pobl ifanc i ffeindio’u llais ac i ddatblygu, siapio a chreu eu gwaith celf eu hunain ar raddfa fawr.
Ariennir Lleisiau Coll trwy gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi tynnu ynghyd Cwmni Theatr Mess Up The Mess, Llamau a Gwasanaethau Plant Dinas a Sir Abertawe ar gyfer rhaglen o weithdai creadigol a gynhaliwyd dros 18 mis a mwy. Penllanw’r gwaith fydd profiad artistig cyhoeddus ar raddfa fawr fis Gorffennaf hyn.
Nodwch 6 Gorffennaf yn eich dyddiadur ar gyfer Digwyddiad Lansio Abertawe a nodwch 14 Gorffennaf yn eich dyddiadur ar gyfer Digwyddiad Lansio Caerdydd, er mwyn i chi gael profiad o’r gwaith anhygoel a chyffrous hwn a arweinir gan bobl ifanc.
Mae pobl ifanc sydd â chysylltiad at Llamau a Gwasanaethau Plant Abertawe wedi gweithio ochr yn ochr ag artistiaid i archwilio’u bywydau, eu profiadau, eu meddyliau, a’u teimladau yn fanwl, a bydd y gwaith hwn yn parhau. Bydd y profiad artistig terfynol yn codi lleisiau’r rheiny sy’n cymryd rhan ac yn sicrhau eu bod yn cael eu clywed. Fel cynulleidfa, byddwch chi’n ymgysylltu â’r byd y mae’r cyfranogwyr yn ei greu ac ar y telerau a ddiffinnir ganddyn nhw.
Mae’r bobl ifanc wedi creu gweledigaeth ar gyfer ‘Tŷ Hwyl Sydd Ddim Wir yn Hwyl’ gan archwilio cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Maen nhw yn y broses o ddylunio a gwneud siwrnai/profiad ar nifer o ffurfiau celf gwahanol ar gyfer cynulleidfa, ac mi fydd yn cynnwys:
- Elfen o osodiad
- Elfen o berfformiad byw
- Elfen o gig
- Profiad amlsynhwyraidd sy’n amgylchynu’r gwyliwr
Mae llawer mwy o wybodaeth i ddod, ond da chi, sicrhewch eich bod chi’n rhydd i brofi creadigrwydd, mewnwelediad ac ymroddiad yr holl bobl ifanc sydd wedi bod yn cymryd rhan.
