Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â thema ‘cartref’ a defnyddio comedi i gael hwyl gartref. Byddwn yn creu ein mannau ffantasi ein hunain a allai wneud i ni deimlo’n hapus, yn ddwl, yn anturus ac yn ddiogel. Byddwn yn archwilio ffantasi, chwedlau a’r mannau a’r bydoedd yr ydym yn eu dewis yn gartref.
Pa dirweddau, gwrthrychau a chymeriadau fyddech chi’n hoffi eu rhithio yn eich lle chi? Pa fath o amgylchedd sy’n gwneud i chi deimlo’n gyffrous? Ym mha fath o amgylchedd ydych chi eisiau chwarae neu fod yn ddwl? Efallai mai natur yw’ch amgylchedd chi, lle gyda llawer o greaduriaid a phobl neu efallai man dan do yn arbennig ar eich cyfer chi. Efallai bod y mannau hyn yn heddychlon ac yn dawel neu efallai eu bod yn rhywle sy’n ddoniol iawn i chi.
Mae yna sawl ffordd i ni greu’r mannau hyn, er enghraifft perfformio, ysgrifennu neu greu. Gallech berfformio trwy stand-up, sgetshis neu efallai bod yn dywysydd taith o amgylch eich lle chi. Trwy gydol yr ychydig sesiynau nesaf byddai’n wych petai pob un ohonoch yn gallu dechrau meddwl beth hoffech chi ei greu neu wneud ar gyfer y prosiect yma. Os nad ydych chi eisiau perfformio, gallwch greu rhywbeth yn lle, fel darluniau, set fach neu animeiddiad neu gallech ysgrifennu rhywbeth i rywun arall ei berfformio.
Rydyn ni’n gweithio tuag at greu ffordd o rannu ein gwaith ym mis Mawrth. Byddwn yn rhannu trwy ddigwyddiad ar-lein, felly rydyn ni’n edrych ar greu fideos wedi eu recordio o flaen llaw neu berfformio’n fyw.
Bydd Ciaran, Callum a fi (Cerian) hefyd yn creu ein darn ein hunain o waith ar yr un pryd, felly byddwn ni’n rhannu ein syniadau gyda chi yn y sesiynau.
