Mesurau Diogelu Rhag Covid yng ngweithdai Mess Up The Mess
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i dy gadw di’n ddiogel
Mae dy ddiogelwch yn bwysig i ni. Rydyn ni am i bawb deimlo’n gyffyrddus ac i fwynhau’r sesiynau.
Rydyn ni’n:
- Edrych ar bob safle’n ofalus i sicrhau ei bod yn ddiogel ac i benderfynu sawl un sy’n gallu dod i’r sesiynau’n ddiogel
- Gosod cyfyngiad ar y niferoedd sydd ymhob sesiwn a sicrhau bod pawb yn cadw’u lle ymlaen llaw
- Gofyn i ti lenwi gwiriad symptomau ar-lein ar ddiwrnod y sesiwn
- Gwirio dy dymheredd cyn i ti ddod i mewn i’r safle
- Sicrhau bod pob un yn gwisgo masg os nad ydyn nhw wedi’u heithrio
- Agor cymaint o ddrysau a ffenestri â phosibl er mwyn sicrhau cymaint o awyru â phosibl
- Agor drysau a ffenestri hanner awr cyn i ti gyrraedd
- Monitro lefelau carbon deuocsid i sicrhau bod yr awyru’n ddigon da i’r niferoedd sy’n bresennol a’n gweithgareddau
- Glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml cyn sesiynau, yn ystod sesiynau ac ar ôl sesiynau
- Darparu hylif diheintio ac annog pawb i ddiheintio’n rheolaidd yn ystod sesiynau
- Adolygu pob gêm a gweithgaredd er mwyn eu gwneud yn fwy diogel
Trwy ddilyn y camau syml hyn, gobeithiwn gadw pob un mor ddiogel â phosibl rhag Covid. Plîs, cefnoga ni trwy gydweithredu, er mwyn i bawb deimlo’n ddiogel a chael amser da.
