Ar 1 Gorffennaf, roedd Mess Up The Mess yn ffodus iawn i gael cwmni Jacob Boehme a ddaeth i gynnal gweithdy dawns a llais aboriginëaidd gyda’r bobl ifanc yn MUTM.
Ganed Jacob ym Melbourne ac mae’n artist o dras Aboriginëaidd, o Narangga (penrhyn Yorke) a Kaurna (Gwastadeddau Adelaide) yn Ne Awstralia. Mae’n artist annibynnol ac yn Gyfarwyddwr Artistig ar IDJA, theatr dawnsio Cynhenid broffesiynol gyntaf Victoria, a sefydlwyd yn 2011. Cyfuna Jacob ei hyfforddiant unigryw mewn dawns, pypedau ac ysgrifennu dramâu i greu theatr, dawns a seremoni amlddisgyblaeth ar gyfer y llwyfan, y sgrîn, digwyddiadau cyhoeddus mawr a gwyliau.
Roedd y bobl ifanc wrth eu bodd yn y gweithdy hynod o egnïol ac roedden nhw’n gyffrous iawn i brofi rhywbeth gwahanol.

“Roedd yn rhywbeth newydd a chyffrous”
“Dw i’n meddwl i fi golli tua stôn”
“Ro’n i’n teimlo ‘mod i mewn rhyw fath o ‘bootcamp’ milwrol”
“Roedd yn gipolwg diddorol ar fywyd a diwylliant aboriginëaidd”

