Gwobrau Children and Young People Now

Gwobrau Children and Young People Now 2015

Mae Mess Up The Mess wedi cyrraedd y rhestr yng Nghategori Celf a Diwylliant Gwobrau uchel eu bri Children and Young People Now. Mae’r gwobrau’n cydnabod mentrau gan y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac sy’n cael effaith bositif ar eu bywydau. Cyrhaeddodd Mess Up The Mess y rhestr fer i gydnabod yr amrywiaeth gyflawn o waith creadigol y mae’n ei wneud gyda phobl ifanc yn Nyffryn Aman ac ar draws De Cymru.

Meddai’r Cyfarwyddwr Artistig, Sarah Jones “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r enwebiad hwn am y wobr uchel ei bri. Dyma wir gydnabyddiaeth o gyrhaeddiad i’r holl bobl ifanc sydd wedi gweithio’n anhygoel o galed ac yn greadigol ar brosiectau Mess Up The Mess dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Cyhoeddir y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar ddydd Iau 26 Tachwedd.

Children and Young People Now Awards Finalist