Ho Ho No! The Trials of Christmas

Ho Ho No! The Trials of Christmas Poster

Ho Ho No! The Trials of Christmas
Ysgrifennwyd gan y cwmni a Llinos Mai

Mae’n Nadolig yn Rhydaman. Ond ‘dyw popeth ddim yn dda. Mae Siôn Corn wedi diflannu, mae Rwdolff yn credu mai ci yw e’ a’r coblynnod bach wedi’u gorweithio ac yn bygwth streicio. Mae gŵr busnes lleol o’r enw Christopher St Nicholas yn cymryd mantais lawn o’r sefyllfa trwy werthu teganau a rhoddion yn ei siop sydd ag enw addas iawn, ‘Snow-ver Priced’, a’r bobl leol yn dechrau pwslo os yw’r Nadolig yn adeg mor hudolus â hynny o’r flwyddyn wedi’r cyfan.

A lwyddan nhw i ddod o hyd i Siôn Corn? A fydd Rwdolff yn cofio’i orffennol fel carw? All y coblynnod achub y dydd? Neu ai dyma fydd diwedd y Nadolig am byth?

Ymunwch â ni am noson o hwyl a sbri Nadoligaidd gydag ychydig bach iawn o ‘bah humbug’.

Yr Arcêd, Rhydaman
Dydd Gwener 11eg Sadwrn 12fed, Sul 13eg Rhagfyr am 7.30 

Cwrdd yn yr Arcêd yn Rhydaman am 7.20 am berfformiad promenâd. Darperir rhai seddau ymhob ardal. Cofiwch wisgo dillad sy’n addas i’r tywydd ar y diwrnod!

Tocynnau:
Llawn: £8.00
Consesiynau: £5.00

Tocynnau ar gael trwy TIcketSource ar https://www.ticketsource.co.uk/event/110638 (efallai y bydd ffioedd ychwanegol) neu 0333 666 3366 (ffi gwasanaeth ffôn o £1.50).