Mae prosiect Prentis Mess Up The Mess yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi bod yn defnyddio theatr fel teclyn i adeiladu sgiliau, magu hyder a chreu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod y prosiect, cafodd y bobl ifanc eu mentora gan dîm proffesiynol o artistiaid theatr, tra’n dyfeisio, llwyfannu a theithio gyda’r hyn sydd wedi datblygu i fod yn ‘Kindling’.
Datblygodd pobl ifanc Prosiect Theatr Prentis Cwmni Theatr Mess Up The Mess gynhyrchiad gwreiddiol sy’n archwilio ymchwil person ifanc am ffordd ymlaen. Dros gyfnod o 5 wythnos, roedd 11 o bobl ifanc yn wneuthurwyr theatr ar brentisiaeth, gan weithio tuag at achrediad, y camau nesaf ar gyfer eu dyfodol a, yn yr hyn sydd i lawer ohonynt yn berfformiad cyntaf, ‘Kindling’.
Kindling: Cynhyrchiad newydd sbon gan bobl ifanc Cwmni Theatr Prentis Mess Up The Mess!
“Dw i’n methu creu mai fi sy’n cael y bai i gyd. Beth ydw i wedi’i wneud o’i le? Y tân yn eu llygaid….y mellt yn eu lleisiau. Rhaid i fi fynd, rhaid i fynd i rywle ar fy mhen fy hun.”
Ariennir gan Borth Ymgysylltu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chefnogir gan Goleg Sir Gâr, ac yn dilyn taith ‘Kindling’ mae nifer o’r cyfranogwyr yn symud ymlaen at gyrsiau coleg, gwirfoddoli neu’r camau nesaf yn eu hyfforddiant.


