
Yr Antur Olaf a Gwynfyd Gwyrthiol
Awdur Mark Williams gyda’r Cwmni
Siwrnai hudolus trwy dir chwedloniaeth a breuddwydion at y groto gorau mewn gofod ac amser.
Pa lwybr ddewiswch chi?
Eleni, ‘doedd un sioe Nadolig ddim yn ddigon i Mess Up The Mess ac felly creodd ddwy:
- Perfformiodd ein Theatr Ieuenctid Yr Antur Olaf, lle mae criw dewr o arwyr yn teithio trwy dyllau mwydod yn y gofod ar antur i ddarganfod cartref newydd.
- Yn Gwynfyd Gwyrthiol, croesawodd Seren, Noel ac Ivy gynulleidfa o ysgolion i’w groto gwych.

Crëwyd y ddwy sioe gan bobl ifanc Mess Up The Mess trwy weithio gyda’r awdur, Mark Williams, y cyfarwyddwr, Elise Davison a’r cyfansoddwr, Dan Lawrence. Cyflwynwyd y sioe yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn y Theatr Botanica.

Yn Yr Antur Olaf, buom yn chwilio am y byd perffaith i ymgartrefu ynddo. Wedi danto’n llwyr â bywyd wedi ei reoli gan gyfrifiaduron, a’u cyfyngu at fyw mewn cromen enfawr, aeth ein grŵp o anturwyr ar antur trwy amser a gofod i amrywiol diroedd wrth chwilio am y Gwynfyd Gwyrthiol. Ar hyd y daith, daethant ar draws gwenyn sy’n lladd, marchogion sy’n brwydro a’u bodiau, Duwiau Llychlynnaidd, plant ellyllon, ac yn olaf zombïod sy’n dawnsio.

Yn Gwynfyd Gwyrthiol, mae amser yn neidio ymlaen, ac mae Seren, Noel ac Ivy, disgynyddion y teithwyr yn eich croesawu i lansio’r groto y maen nhw wedi ei greu. Bwyd bendigedig yr ŵyl. Oriel odidog o roddion. Ac ymweliad gan y Brenin Coch ei hun. Beth allai fynd o’i le?

Cyflwynwyd Gwynfyd Gwyrthiol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Darparwyd dehongliad ar gyfer Yr Antur Fawr a Gwynfyd Gwyrthiol yn Iaith Arwyddion Prydain.
Ariannwyd Yr Antur Olaf a Gwynfyd Gwyrthiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
