Gwneud Fi yn Fi

“Gwneud Fi yn Fi” – hyfforddiant ymarferol sgiliau cefn-llwyfan creadigol i bobl ifanc 11-25 oed.

Wyt ti’n hoffi creu ac yn ymddiddori mewn dylunio theatr a gwneud pypedau?

Wyt ti’n caru creu cerddoriaeth ac yn ymddiddori mewn cynllunio sain a chyfansoddi?

Mae Mess Up The Mess yn cynnal 3 diwrnod o  hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiannau celfyddydol yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe dros wyliau’r Pasg.

Ar ôl y gweithdai, bydd cyfle i barhau i greu ac i weithio gyda’r artistiaid bob nos Fawrth ym mis Mai a chyfle i fod yn rhan o Sioe Wanwyn MUTM am yr hyn sy’n gwneud ni yn ni!

Dyddiadau:

Canolaf Celfyddydau Pontardawe – Hyfforddiant

Dydd Mawrth 19 Ebrill 10am- 4pm

Dydd Mercher 20 Ebrill 10am- 4pm

Dydd Gwener 22 Ebrill 10am- 4pm

GCG a Tairgwaith – Sesiynau i ddod:

Nos Fawrth 6-8pm

26 Ebrill

3 Mai

10 Mai

17 Mai

Wythnos y Cynhyrchiad:

Wythnos 24 Mai

Sioeau:

  • 28 Mai
  • 29 Mai

I gadw’ch lle, cliciwch yma – (mae’r llefydd yn gyfyngedig a’r cyntaf i drefnu lle fydd yn cael lle)