Beth yw Another Queer Christmas?
Nadolig 2013: Cydweithiodd y dramodydd, Bethan Marlow, â chwmni Mess Up The Mess, ar gynhyrchiad arloesol oedd yn cynnwwys 100 o aelodau o gymuned LHDTCi+ Abertawe.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae awyrgylch a diwylliant Abertawe wedi newid yn aruthrol, ond mae ei hanes cwiar yn cael ei ddileu.
Bydd Another Queer Christmas yn dod a chymunedau cwiar Abertawe ynghyd dros gyfnod o 2 flynedd o weithgarwch creadigol i archwilio eu teithiau a’u hanesion unigol a chyfunol, ac i ddysgu gan ei gilydd. Gan ddod ag artistiaid proffesiynol, pobl greadigol cwiar a’r gymuned LHDTCi+ ynghyd drwy ysgrifennu, perfformio, celfyddydau gweledol a cherddoriaeth, bydd y prosiect rhyng-genhedlaeth hwn yn sefydlu gofodau creadigol a chynhwysol lle gall cymunedau cwiar Abertawe ddathlu eu hunain a’u straeon. Uchafbwynt y gweithgarwch fydd Ffrwydrad Creadigol o ddigwyddiadau dros Nadolig 2024. Bydd Another Queer Christmas yn creu etifeddiaeth o gysylltiadau parhaol rhwng unigolion a sefydliadau, gan sefydlu rhwydwaith o weithgarwch creadigol cwiar fydd yn parhau ymhell ar ôl i’r prosiect ddod i ben.
Ein Hamcanion
- Lleihau unigrwydd ac iechyd meddwl gwael ymhlith pobl LHDTCi+ drwy sefydlu mannau cynhwysol, creadigol iddynt fagu hyder i fod yn nhw eu hunain.
- Creu man cwiar diogel i holl bobl LHDTCi+, gan gynnwys y rhai y mae’r scene yn rhwystr iddynt, a sicrhau cynwysoldeb ar gyfer pobl anabl, siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndir mwyafrif byd-eang, gan gydnabod eu hanghenion a’r mewnwelediadau penodol sydd ganddynt.
- Cynyddu dealltwriaeth o bobl cwiar, gan fynd i’r afael â throseddau casineb trwy ddod â phrofiad cwiar creadigol yn fyw ar draws y Ddinas, a hawlio lle i leisiau cwiar yn stori cymunedau Abertawe.
- Adeiladu gwytnwch sefydliadau LHDTCi+ ar lawr gwlad, gan gynyddu eu haelodaeth a’u rhyng-gysylltiadau.
- Creu etifeddiaeth hirdymor o weithgarwch creadigol cwiar a gynhelir gan rwydwaith gweithgar o unigolion a sefydliadau
Llinell Amser
Bydd y prosiect yn dilyn 5 cam:
Hydref – Rhagfyr 2023:
- Ymgysylltu â’r gymuned ar lawr gwlad
- Cynnal 25 o weithdai blasu aml-ffurf ar gelfyddyd ar draws Abertawe
- Llunio’r cam nesaf trwy wrando ar leisiau’r cyfranogwyr
Ionawr – Mehefin 2024:
- Cyflwyno’r rhaglen: 6 gweithdy x 5 ffurf ar gelfyddyd
- Cyd-greu themâu, straeon a syniadau ar gyfer arddangosfeydd, perfformiadau a Ffrwydradiadau Creadigol
Gorffennaf – Awst 2024:
- Gweithdai 3 diwrnod dwys ym mhob un o’r 5 ffurf ar gelfyddyd
- Mireinio syniadau ar gyfer y Ffrwydrad Creadigol gyda chyfranogwyr
- Ysgrifennu sgriptiau, creu gweithiau celf
Medi – Rhag 2024:
- 12 gweithdy ym mhob un o’r 5 ffurf ar gelfyddyd
- Cwblhau sgriptiau, cwblhau gweithiau celf ac ymarfer
- 3 diwrnod o Ffrwydradiadau Creadigol: arddangosfeydd, fflachdorfau, perfformiadau wedi’u creu o syniadau cyfranogwyr
Ionawr – Medi 2025 – Yr Etifeddiaeth:
Ystyrir etifeddiaeth o gychwyn cyntaf y prosiect ymlaen, ond mae’r cam olaf hwn yn gyfle i fyfyrio a gwerthuso, yn ogystal ac ar gyfer gwaith datblygu sydd yn canolbwyntio ar unigolion a sefydliadau a allai arwain at:
- rhoi hwb i grwpiau a gweithgareddau artistig cwiar newydd drwy adeiladu ar gysylltiadau a grëwyd drwy’r prosiect a sefydlu rhwydweithiau
- cefnogi grwpiau i fod yn fwy gwydn gyda chymorth datblygu gan y Cynhyrchydd Cymunedol a phartneriaid y prosiect
- Rhannu a lledaenu’r dysgu
Y Partneriaid
- Bethan Marlow (Artist Arweiniol)
- Cerian Wilshere-Davies (Artist Arweiniol)
- Pride Abertawe
- PYNK
- Tîm Celfyddydau a Threftadaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Urban Foundry
- Cwmni Theatr Mess Up The Mess (sefydliad cartref y prosiect, cynhyrchu)