Prosiect Queertawe

The cast of Queer Christmas sing

We sang, Queer Christmas, December 2013

Beth yw Queertawe?

Nadolig 2013: Cydweithiodd y dramodydd, Bethan Marlow, â chwmni Mess Up The Mess, ar gynhyrchiad arloesol oedd yn cynnwwys 100 o aelodau o gymuned LHDTCi+ Abertawe.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae awyrgylch a diwylliant Abertawe wedi newid yn aruthrol, ond mae ei hanes cwiar yn cael ei ddileu.

Bydd Queertawe yn dod a chymunedau cwiar Abertawe ynghyd dros gyfnod o 2 flynedd o weithgarwch creadigol i archwilio eu teithiau a’u hanesion unigol a chyfunol, ac i ddysgu gan ei gilydd. Gan ddod ag artistiaid proffesiynol, pobl greadigol cwiar a’r gymuned LHDTCi+ ynghyd drwy ysgrifennu, perfformio, celfyddydau gweledol a cherddoriaeth, bydd y prosiect rhyng-genhedlaeth hwn yn sefydlu gofodau creadigol a chynhwysol lle gall cymunedau cwiar Abertawe ddathlu eu hunain a’u straeon. Uchafbwynt y gweithgarwch fydd Ffrwydrad Creadigol o ddigwyddiadau dros Nadolig 2024. Bydd Queertawe yn creu etifeddiaeth o gysylltiadau parhaol rhwng unigolion a sefydliadau, gan sefydlu rhwydwaith o weithgarwch creadigol cwiar fydd yn parhau ymhell ar ôl i’r prosiect ddod i ben.

Ein Hamcanion

  • Lleihau unigrwydd ac iechyd meddwl gwael ymhlith pobl LHDTCi+ drwy sefydlu mannau cynhwysol, creadigol iddynt fagu hyder i fod yn nhw eu hunain.
  • Creu man cwiar diogel i holl bobl LHDTCi+, gan gynnwys y rhai y mae’r scene yn rhwystr iddynt, a sicrhau cynwysoldeb ar gyfer pobl anabl, siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndir mwyafrif byd-eang, gan gydnabod eu hanghenion a’r mewnwelediadau penodol sydd ganddynt.
  • Cynyddu dealltwriaeth o bobl cwiar, gan fynd i’r afael â throseddau casineb trwy ddod â phrofiad cwiar creadigol yn fyw ar draws y Ddinas, a hawlio lle i leisiau cwiar yn stori cymunedau Abertawe.
  • Adeiladu gwytnwch sefydliadau LHDTCi+ ar lawr gwlad, gan gynyddu eu haelodaeth a’u rhyng-gysylltiadau.
  • Creu etifeddiaeth hirdymor o weithgarwch creadigol cwiar a gynhelir gan rwydwaith gweithgar o unigolion a sefydliadau

Arts Council Wales, Lottery, Welsh Government Funded