Bu pobl ifanc o Mess Up The Mess yn gweithio gyda 5 artist proffesiynol i greu trafodaeth lwyfan yn archwilio dyfodol addysg yng Nghymru fel rhan o Brosiect Democratiaeth Mawr National Theatre Wales. Enillodd Mess Up The Mess y cyfle i weithio ar y prosiect hwn yn dilyn pleidlais ar-lein ddifrifol a chystadleuol ble dewiswyd eu syniad gan dros 1000 o bobl.
Nod Prosiect Democratiaeth Mawr National Theatre Wales yw archwilio sut allai’r celfyddydau feithrin perthynas o’r newydd rhwng pobl รข’r system ddemocrataidd, ac mae wedi gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i greu digwyddiadau sy’n cyfuno celfyddydau, perfformiad a thrafodaeth.
Yn ystod proses ddatblygu dwys a barodd wythnos, fe fu pobl ifanc o Mess Up The Mess yn dyfeisio darnau perfformio a gwaith celf o fath arall, er mwyn archwilio cyflwr addysg yng Nghymru a’i dyfodol ac i sbarduno trafodaeth gyda’r gynulleidfa. Fe fuon nhw’n gweithio gyda 5 artist proffesiynol, gan gynnwys:
- Ali Goolyad, Bardd ac Artist y Gair Llafar
- Chantal Erraoui, Actor a Pherfformiwr
- Daniel Morgan, Actor a Chyfarwyddwr
- Bethany Seddon, Dylunydd ac Artist Gweledol
- Chris Young, Artist Sain
Cyflwynwyd y gwaith yn nhrafodaeth lwyfan Democratiaeth Mawr yn Theatr y Glowyr Rhydaman ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, 2015. Daeth dros 60 o bobl ac fe fuon nhw’n cymryd rhan mewn trafodaethau a fframiwyd ac a hwyluswyd gan bobl ifanc. Roedd y trafodaethau’n cynnwys y rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu mewn addysg, sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y system addysg a diben addysg yn eu barn nhw.
Penllanw prosiect Democratiaeth Mawr National Theatre Wales fydd digwyddiad yn y Senedd ym mis Mawrth 2016. Bydd pobl ifanc o Mess Up The Mess yn cyflwyno peth o’u gwaith ac yn helpu hwyluso’r drafodaeth.












