
Fis Gorffennaf yma yng Nghaerdydd, fe fydd Mess Up The Mess yn cyflwyno ‘Humanequin’ gyda Youth Cymru, gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru.
Crëwyd ‘Humanequin’ gan bobl ifanc traws* ynghyd â phobl ifanc Mess up the Mess, er mwyn ysbrydoli a chreu newid o fewn eu cymunedau. Fe fydd y perfformiad yn cynnwys cyfuniad o berfformiad byw a phremier ffilm y maen nhw wedi ei chreu yn arbennig i athrawon a gweithwyr ieuenctid ei defnyddio fel cymorth mewn dosbarthiadau ABCh mewn addysg uwchradd, i addysgu pobl ifanc. Ynghyd â’r perfformiad cyhoeddus, fe fydd perfformiad yn ysgol un aelod o’r grŵp a pherfformiad yng Nghynhadledd Pivotal ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Prosiect gan Youth Cymru yw Traws*Newid Cymru ac mae’n cael ei arwain gan rwydwaith o bobl ifanc, sy’n uniaethu fel unigolion trawsrywiol ac wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o’r materion eang a phenodol sy’n effeithio ar bobl ifanc drawsrywiol, gan gynnwys sut mae rhywedd yn cael ei adlewyrchu ar ffurflenni monitro, yn ogystal ag ymgyrchu dros gynnwys materion traws* o fewn cwricwlwm yr ysgol.
Meddai Rowan, sy’n aelod o Traws* Newid Cymru, ynglŷn â ‘Humanequin’:
“Mae’r prosiect yma wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yn hyn. Dyma fy nghyfle cyntaf i ddod i adnabod unigolion traws* eraill, ac erbyn hyn maen nhw oll wedi dod yn ffrindiau agos i mi. Trwy’r prosiect ei hun, rydyn ni gyd wedi cael y cyfle i leisio’n pryderon a’n gobeithion ar gyfer pobl ifanc traws* yng Nghymru, ac mae wedi’n galluogi ni i ddatblygu’r sgiliau i sicrhau newid yn ein cymunedau a thu hwnt. Rydw i fy hun wedi magu hyder ac wedi gwneud pethau nad oeddwn i’n credu y gallwn i eu gwneud o’r blaen. Rwy’n hynod o gyffrous i roi anadl einioes i’r prosiect.”
Fe gafodd y bobl ifanc y cyfle i lwyfannu eu llais, ond cawsant sgiliau gwerthfawr hefyd trwy weithio gyda gwneuthurwyr theatr proffesiynol sy’n ysbrydoli, gan gynnwys enillydd Gwobr Drama Cymru 2015, Kelly Jones, a’r cynllunydd Georgina Miles, y gwneuthurwr ffim Carolina Vasquez ac Enillydd Gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru 2012, Jain Boon.
Mae ‘Humanequin’ yn rhan o brosiect 3 blynedd Mess Up The Mess: ‘Breuddwydiwch!’. Prosiect tair blynedd yw ‘Breuddwydiwch!’ ble mae pobl ifanc o bob rhan o Dde Cymru yn archwilio’r materion a’r problemau sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau. Maen nhw’n cydweithio i wneud gwir wahaniaeth tra’n dysgu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a chodi eu dyheadau a’u hunan-barch. Cefnogwyd y prosiect hwn gan y Gronfa Loteri Fawr.
Manylion y Perfformiad:
Humanequin
Dyddiad: 16 Gorffennaf 2015
Amser y Perfformiad: 5:30yh
Lleoliad: Urdd Gobaith Cymru, Bute Place, Cerdydd, CF10 5AL
Pris Tocynnau: AM DDIM
Swyddfa Docynnau: E-bostiwch Rachel@youthcymru.org.uk
Hyd y Perfformiad: 2 awr (yn cynnwys ffilm a gweithdy)
Canllaw Oedran: 11+
Crëwyd gan y bobl ifanc o Traws*Newid Cymru, cefnogir yn greadigol gan yr awdur Kelly Jones a enillodd Wobr Drama Cymru, cyfarwyddwr Jain Boon, cynllunydd Georgina Miles a chynhyrchydd y ffilm Carolina Vasquez.

