Click

Young people perform Click

Click gan Dafydd James

Ar-lein/off-lein: ‘dyw pobl ddim wastod sut maen nhw’n ymddangos. Felly sut allwch chi ddweud pan fydd pethau’n ‘clicio’? Oherwydd nid dim ond mater o wasgu botwm yw e’. Daw bywydau 12 o bobl ifanc yn fwy a mwy o blethwaith trwy gyfres o hap-gyfarfodydd, wrth iddyn nhw ymdrechu i ddeall eu hunain a dechrau meithrin perthnasoedd rhyfeddol a fydd yn newid y ffordd y maen nhw’n gweld y byd am byth.

Datblygwyd ‘Click’ yn rhyngwladol gan Mess Up The Mess, Australian Theatre for Young People, Inspired Productions, New Zealand a Hong Kong Academy for Performing Arts ac fe’i cynhyrchwyd yn 2011. Fe fuon ni’n teithio ledled De Cymru ym mis Medi 2011. Fe fu’r partneriaid rhyngwladol yn ei chyflwyno yn eu dinasoedd cartref nhw.

Cafodd ei hail-lwyfannu a theithiodd eto’r flwyddyn ganlynol ar draws De Cymru.

Cipolwg ar amrywioldeb diwylliant ieuenctid modern yw ‘Click’ a chaiff ei chyflwyno trwy sgript sy’n symud, yn ymgysylltu ac yn ddifyr iawn. Mae’n taclo materion caled gan gynnwys gofalwyr ifainc, rhywioldeb ieuenctid, beichiogrwydd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, homoffobia a hunaniaeth, gyda hiwmor agored a beiddgar y mae cynulleidfaoedd ifainc yn ei barchu.

Gweithiodd Dafydd James a Mess Up The Mess gyda phobl ifanc o Dde Cymru, Awstralia, Sealand Newydd a Hong Kong i greu ‘Click’. Fe fuon nhw’n cydweithio ar heriau creadigol ac yn rhannu eu syniadau trwy flogio a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Cymerodd Dafydd y deunydd hwn a chreodd ddrama feiddgar ac arloesol, gan archwilio cyfathrebu ar draws y rhyngrwyd, ffiniau cymdeithasol, perthnasoedd ac ymddiriedaeth.

“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn gweithio ar ddrama sy’n mynd i gael ei pherfformio mewn pedwar lle gwahanol ym mhedwar ban byd. Mae’n brofiad dysgu hynod o cŵl ble’r ydyn ni’n cael dysgu am ddiwylliannau eraill ac archwilio elfennau sy’n debyg ac elfennau sy’n wahanol. Mae’n sgript mor cŵl a dw i’n credu y bydd llawer o bobl ifanc yn gallu uniaethu â’r cymeriadau a’r materion y mae’n eu cyflwyno.” – Tabby Besley, Cyfarwyddwr Ieuenctid NZ Inspired Productions

Roedd yn cynnwys dros 100 o bobl ifanc, 5 her greadigol, 4 gwlad 3 taith gyfnewid, ac fe ddechreuodd gyda thaith gyfnewid ddiwylliannol i Hong Kong a gorffen gyda pherfformiadau ar draws y byd.

“Arbennig iawn – ffraeth, doeth a thamaid o ddrygioni. Theatr ieuenctid ar ei gorau.” – John McGrath, Theatr Genedlaethol Cymru

“Mae Click wir yn crisialu cyffro a chyflymder yr oes ddigidol.” – Buzz Magazine

Supported by Big Lottery Fund, Children in Need, Arts Council Wales, European Social Fund