Ffilm Treftadaeth Cymryd Rhan

Pobl ifanc yn creu perfformiad dogfen arswyd cerddorol dwyieithog i hyrwyddo treftadaeth

Young people from Heritage project

Creodd aelodau Mess Up The Mess y ffilm Dreftadaeth – Cymryd Rhan, 2010

Mae grŵp o bobl ifanc o Mess Up The Mess wedi herio’r stereoteip am blant yn eu harddegau sydd wedi ymddieithrio, trwy ddewis cymryd rhan mewn prosiect treftadaeth, yn ddi-dâl, yn eu hamser sbâr.

Gyda briff gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), gofynnwyd i bobl ifanc o Gwmni Theatr Mess Up The Mess yn Rhydaman i greu a chynhyrchu ffilm fer er mwyn profi bod gan bobl ifanc ddiddordeb yn eu treftadaeth a hefyd er mwyn annog pobl ifanc eraill i fod yn agored i greu prosiect treftadaeth a bod yn rhan ohono.

Bu’r criw o 12 o bobl ifanc yn cwrdd yn wythnosol mewn cyfarfodydd gyda’r nos, yn ogystal â sesiynau ffilmio dros y penwythnos, a hynny dros gyfnod o 12 wythnos. Buont yn cymryd rhan mewn sesiynau trafod syniadau, ymchwil, sesiynau ysgrifennu a cherddoriaeth a gweithdai ffilmio a golygu yn ystod y cyfnod paratoi. Aethant yn eu blaenau i gyfarwyddo, actio a ffilmio ar leoliad, yn ogystal â helpu golygu’r ffilm derfynol.

Cynhaliwyd perfformiad cyntaf swyddogol y ‘cynhyrchiad dogfen arswyd cerddorol’- cyfuniad o dri genre allweddol – yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ar 2 Awst, ac mae nawr ar gael ar wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri (hlf.org.uk) a thrwy dudalen Facebook Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru ac ar YouTube.

Mae’r ffilm a elwir yn ‘Cymryd Rhan – Get Involved’, yn dilyn y bobl ifanc wrth iddynt archwilio chwedloniaeth a gorffennol diwydiannol Merthyr Tudful, ac amlygu eu hoff atyniadau treftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys Parc Bedwellty a Chastell Cyfarthfa.

Fe’i gwnaethpwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gyda rapio steil beat box dwyieithog a chân wreiddiol yn cael ei defnyddio fel naratif, ynghyd â golygu cyflym a golygfeydd creadigol yn cynnwys y Medelwr mawr yn chwarae gitâr: y cyfan yn cyflwyno treftadaeth mewn ffordd newydd.

Bydd y ffilm yn cael ei defnyddio fel arf i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn uniongyrchol, yn ogystal ag i helpu ymgeiswyr y dyfodol i feddwl am ffyrdd i gynnwys pobl ifanc yn eu prosiectau.

Meddai Jennifer Stewart, Pennaeth CDL Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r ffilm gan ei fod yn ddarn o waith unigryw a chyfoes, sydd yn sicr o ddal dychymyg pobl ifanc eraill. Mae’n wych i weld ffilm am dreftadaeth sydd wedi ei chreu gan bobl ifanc, gan mai nhw yn y pen draw fydd yn cadw ein treftadaeth yn fyw yn y dyfodol.

Mae Jacob Thomas, 17 oed, o Rydaman wedi bod yn mynychu Mess Up The Mess ers tair blynedd, lle mae wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau treftadaeth sydd wedi eu hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Meddai Jacob: “Ges i lawer o hwyl yn creu’r ffilm, a ddysges i lawer o sgiliau newydd, fel cyfarwyddo er enghraifft. Dwi wastad wedi bod yr un sy’n dilyn gorchmynion yn hytrach na’u rhoi nhw, felly o’n i ddim yn siŵr sut fydden i’n ymateb i gyfarwyddo, ond fe ddaeth y cyfan yn eithaf naturiol i fi a ro’n i’n teimlo’n gyfforddus gyda’r awdurdod!

“Yn ogystal â chyfarwyddo, nes i gyfansoddi cân, helpu gyda’r recordio a chyd-ysgrifennu geiriau hefyd, felly ges i gyfle i droi’n llaw at lawer o bethau newydd, a oedd yn brofiad gwych.

“Ers bod yn rhan o Mess Up The Mess, dwi wedi cael llawer mwy o ddiddordeb yn fy hanes lleol, ac fel canlyniad dwi hyd yn oed wedi penderfynu cymryd Lefel A mewn Hanes. Dwi ‘di sylweddoli nad mewn llyfrau yn unig mae treftadaeth yn bodoli, mae e o’n cwmpas ni ymhobman, a dwi’n meddwl bo ni’n cyfleu hyn yn y ffilm.”

Meddai Ceriann, aelod arall o’r criw: “Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn ysgrifennu a’n uchelgais i yw bod yn awdur rhyw ddydd, felly mae’r prosiect yma wedi bod yn brofiad gwych er mwyn fy helpu i i wireddu fy mreuddwyd.

“Ers ymuno â Mess Up The Mess, dwi wedi cymryd rhan mewn ambell brosiect treftadaeth, a dwi’n teimlo mod i wedi ennill mwy o hyder o ganlyniad, sef un o’m rhesymau dros ymuno yn y lle cyntaf. Rydyn ni’n cael llawer o hwyl, a dwi wedi gwneud ffrindiau agos a dysgu sut i weithio fel tîm, yn ychwanegol at y sgiliau mwy ymarferol dwi wedi eu dysgu yn y broses.

“Dwi’n meddwl y bydd y ffilm yn gweithio’n dda iawn yn nhermau cael pobl ifanc eraill i gymryd diddordeb yn eu treftadaeth, wrth iddyn nhw weld faint o hwyl gawson ni wrth fynd i’r afael â’n hanes. Mae’r ffilm yn eithaf bisâr, yn enwedig gan ei bod hi’n gyfuniad o dri genre, felly mae rhywbeth i bawb ynddi.”

Funded by Heritage Lottery Fund