Amplify: Trowch E Lan

Amplify: Trowch e Lan – Prosiect newydd i bobl ifanc 11-25 oed

Mae Mess Up The Mess yn gweithio mewn partneriaeth â vChanolfan Celfyddydau Pontardawe a’i Grŵp Cyfeillion, i gyflwyno cyfres o weithgareddau creadigol, cyffrous i bobl ifanc. Unwaith fydd y bobl ifanc wedi ymrwymo, byddant yn chwarae rhan allweddol wrth greu, rheoli a chyflwyno eu rhaglen eu hunain o ddigwyddiadau yn y Ganolfan Celfyddydau.

 

Parth technegol (i bobl ifanc 14-19 oed) – 6 – 9pm bob nos Iau  man diogel lle bydd pobl ifanc yn gallu cwrdd, bodoli a defnyddio technoleg. Unwaith y mis, bydd gweithgareddau anffurfiol yn cael eu rhedeg gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Cyrsiau byr anffurfiol – cyrsiau byr o chwe sesiwn mewn:

Sain (24th Tach & 1st Rhag 1-6pm, 2nd Rhag & 9th Rhag 5pm)

Ffilm (5ed Ebrill, 8fed Ebrill, 19eg Ebrill, 26ain Ebrill, 3ydd Mai, 10fed Mai 3-8pm)

Event Planning and Marketing (2il Chwefror, 9fed Chwefror, 15fed Chwefror, 1af Mawrth, 7fed Mawrth, 15fed Mawrth 11.30am-4.30pm)

Lighting (5ed Ebrill, 8fed Ebrill, 19eg Ebrill, 26ain Ebrill, 3ydd Mai, 10fed Mai 1-6pm)

Bydd y rhain yn rhoi i’r bobl ifanc y sgiliau i gyflwyno eu rhaglen eu hunain o ddigwyddiadau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc. Hwylusir y sesiynau hyn gan weithwyr proffesiynol profiadol o’r diwydiant gyda chefnogaeth staff y prosiect.

Grŵp Digwyddiadau Arweiniad Ieuenctid – Er mwyn darparu rhaglen o ddigwyddiadau sydd wir wedi ei harwain gan bobl ifanc, bydd pobl ifanc yn cael eu recriwtio i ffurfio grŵp digwyddiadau arweiniad ieuenctid. Cefnogir y grŵp i wneud y gwaith ymchwil, cynllunio, rheoli a hyrwyddo ar gyfer 6 digwyddiad i gynulleidfaoedd ifanc dros oes y prosiect. 

Fforwm Ieuenctid – bydd pobl ifanc yn ffurfio fforwm ieuenctid i redeg mewn partneriaeth â’r grŵp Cyfeillion. Bydd y Fforwm yn ffordd barhaus o gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau ac yn sianel er mwyn i’r bobl ifanc barhau i gefnogi’r Ganolfan.

Gwirfoddoli – Anogir cyfranogwyr i ennill mwy o brofiad yn y celfyddydau creadigol trwy wirfoddoli gyda’r Ganolfan Celfyddydau. Amlygir cyfleoedd i wirfoddoli mewn rolau cefn-llwyfan a blaen-tŷ a bydd y rhain yn cael eu hyrwyddo ymhlith cyfranogwyr. 

Ariennir y prosiect hwn trwy gronfa Cymunedau Gwledig Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiect i ymgysylltu â phobl ifanc, a bydd ar waith hyd fis Awst 2020.