Dyma’r cyfleoedd i wirfoddoli sydd gan Mess Up The Mess ar hyn o bryd:
Cynorthwyydd Drama a Phrosiectau Gwirfoddol
Nod y rôl wirfoddol: helpu cyflwyno sesiynau drama a phrosiectau, cysgodi staff proffesiynol a phobl sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain a chael cymorth i fabwysiadu rolau o fewn y prosiect.
Amcan y rôl wirfoddol yw: cefnogi’r gwaith o gynnal sesiynau drama, prosiectau a digwyddiadau
Tasgau:
- Helpu gyda’r gwaith o gynllunio sesiynau
- Helpu cyflwyno’r sesiynau
- Mynd i sesiynau hyfforddiant Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â’r Gymuned
- Mynd i gyfarfodydd tîm
- Cadw cofnodion a monitro sesiynau a’r rheiny sy’n cymryd rhan
Cynorthwyydd Gwirfoddol Prosiectau Marchnata a Chyfathrebu
Nod y rôl wirfoddol: helpu gyda’r gwaith o farchnata amrywiol brosiectau a digwyddiadau cymunedol ac amrywiol brosiectau a digwyddiadau Mess Up The Mess.
Amcan y rôl wirfoddol yw: helpu gyda’r deunyddiau marchnata ar gyfer prosiectau a digwyddiadau
Tasgau:
- Helpu gyda’r gwaith o gynllunio a marchnata digwyddiadau
- Mynd i ddigwyddiadau
- Mynd i sesiynau hyfforddiant Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â’r Gymuned
- Mynd i gyfarfodydd tîm
- Tynnu lluniau a Gwneud fideos o ddigwyddiadau a sesiynau
- Diweddaru’r wefan
- Dod i gyswllt â’r wasg
- Trafod deunyddiau marchnata gyda dylunwyr graffig
Cynorthwywyr Cymorth Goleuo â Hyfforddiant Technegol
Nod y rôl gwirfoddoli: Gweithio gyda grŵp neu fudiad cymunedol lleol i ddarparu cymorth goleuo technegol, er mwyn gwella digwyddiad cymunedol.
- Fe fydd gwirfoddoli’n cynnwys:
- Hyfforddi mewn Goleuo theatr dechnegol
- Mynychu digwyddiadau, cydosod a gweithredu cyfarpar goleuo
- Cwblhau Cymhwyster Agored Lefel 2 mewn Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â’r Gymuned
Cynorthwywyr Cymorth Sain â Hyfforddiant Technegol
Nod y rôl gwirfoddoli: Gweithio gyda grŵp neu fudiad cymunedol lleol i ddarparu cymorth sain technegol, er mwyn gwella digwyddiad cymunedol.
- Fe fydd gwirfoddoli’n cynnwys:
- Hyfforddi mewn Sain theatr dechnegol
- Mynychu digwyddiadau, cydosod a gweithredu cyfarpar sain
- Cwblhau Cymhwyster Agored Lefel 2 mewn Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â’r Gymuned
Arweinydd Cymheiriaid Gwirfoddol
Nod y rôl wirfoddol: Gweithio gyda Chwmni Theatr Mess Up The Mess fel model rôl actif i aelodau ifancach y cwmni.
Amcan y rôl wirfoddol yw: cefnogi ac arwain cymheiriaid yn ystod gweithdai a digwyddiadau
Tasgau:
- Mynd ar gwrs hyfforddiant pres wyl (2020)
- Trefnu gweithdai a digwyddiadau i bobl ifanc, helpu ynddynt neu eu rhedeg gydag/ar gyfer eu cymheiriaid.
- Cefnogi a chynorthwyo Staff Mess Up The Mess i redeg gweithdai ar gyfer pobl ifanc
- Mynd i gyfarfodydd bob pythefnos gyda’r Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid i drafod digwyddiadau’r dyfodol a’u cynllunio.
Fe fydd pob un o’r cyfleoedd i wirfoddoli wedi’u lleoli yn Swyddfa MUTM, 46 Stryd y Coleg, Rhydaman, SA18 3AF. Fodd bynnag, mae’n bosib bydd gweithgareddau hyfforddi a threfnu digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn amryw gymunedau gwahanol yn Ne Cymru.
Cludiant:
Fe fydd costau cludiant yn cael eu talu ac fe fydd cymorth gyda chludiant yn cael ei gynnig, pan fo’n bosib. Treuliau ar gyfer bwyd, tra bod yn gwirfoddoli am 4 awr neu fwy.
Sgiliau gofynnol:
1. Diddordeb mewn theatr dechnegol
2. Parodrwydd i ddysgu a manteisio ar bob cyfle
3. Sgiliau cyfathrebu da (a fydd yn cael eu datblygu trwy gydol y prosiect)
4. Gallu i weithio fel tîm
5. Bod yn hyblyg trwy gydol y prosiect
Buddion a gynigir:
1. Hyfforddiant a chymhwyster am ddim
2. Cyfleoedd i gyfranogi mwy yn y gymuned a chwrdd â phobl newydd
3. Costau cludiant wedi’u talu
4. Cyfle i ennyn sgiliau a gwybodaeth newydd, mewn ffordd hwyliog a chyffrous
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau yna cysyllta â Jay Smith ar 01268 591167 neu jay@messupthemess.co.uk