Hyfforddiant Theatr Dechnehol

Cyflwynodd Gwirfoddoli MUTM ddeuddydd o gwrs hyfforddiant mewn Sain a Goleuo yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman, Glanaman.

Bu’r bobl ifanc yn treulio’r dydd yn dysgu am gynllunio sain a pheirianneg sain ac yn recordio a chreu eu straeon seinlun eu hunain, yn seiliedig ar hanesion adnabyddus Grimm. Y diwrnod canlynol, buont yn archwilio byd goleuo ac yn dysgu sut i rigio, cynllunio a phlotio goleuadau. Yna, buont yn creu lle atmosfferig gyda’r goleuadau i gyd-fynd â’u seinluniau. 

Byddwn yn cynnal diwrnod arall o hyfforddiant mewn Sain ym mis 8 Rhagfyr gyda chyfle i ddarparu’r elfen dechnegol yng Nghabaret Nadoligaidd MUTM.

Os hoffet ti ddod i’r hyfforddiant a gwirfoddoli ar gyfer ein sioe Nadolig, cysyllta â Jay Smith ar 01269 591167 neu e-bostia jay@messupthemess.co.uk