Amplify:Trowch e Lan – Prosiect arloesol, deinamig a chreadigol gyda phobl ifanc a diwylliant ieuenctid wrth galon y gwaith.
Mae Mess Up The Mess yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Pontardawe a’i grŵp Cyfeillion, er mwyn cyflwyno cyfres o weithgareddau cyffrous a chreadigol sy’n ymgysylltu â phobl ifanc 11-25 oed.
Ar ddydd Iau, 3 Hydref 2019, agorwyd y drysau i’r gymuned gyfan; partneriaid, y cyhoedd, pobl ifanc a phobl hŷn, er mwyn dathlu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc a lansio’r prosiect yn swyddogol.
Bu gwirfoddolwyr ifainc Mess Up The Mess yn croesawu pobl ifanc, newydd, o’r gymuned yn ogystal ag urddasolion, a chafwyd nifer o weithgareddau creadigol a gêmau. Cafwyd cerddoriaeth acwstig fyw gan Rose Gower a chyflwyniad gan Sarah Jones a Jay Smith.
Mae Amplify: Trowch e Lan yn cynnig y cyfleoedd canlynol i bobl ifanc:
- Sesiynau Galw Heibio Y Parth Technegol: Bob nos Iau, 6-9 i bobl ifanc 14-19 oed
- Cyrsiau byr mewn:
- Sain
- Ffilm
- Marchnata a Hyrwyddo
- Goleuo
- Tîm Digwyddiadau a Arweinir gan Ieuenctid: Grŵp lle bydd pobl ifanc yn dod at ei gilydd i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau
- Fforwm Ieuenctid
Ariennir y prosiect hwn gan raglen LEADER. Ariennir y rhaglen LEADER trwy Raglen Cymunedau Gwledig Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect ymgysylltiad ieuenctid hwn ar waith hyd nes mis Awst 2020.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jay Smith ar 07896065126 neu jay@messupthemess.co.uk