Mess Up The Mess a’r Coronafeirws

Ry’n ni’n sylweddoli bod tipyn o amser wedi mynd heibio ers i’r cyfyngiadau symud ddechrau. Ac, er bod siopau ac ysgolion yn dechrau agor, ac ry’n ni’n gweld eich eisiau chi i gyd yn fawr, ry’n ni’n dal i gael ein hatal rhag cynnal ein sesiynau drama wyneb yn wyneb rheolaidd.

Ry’n ni’n gweithio ar gynllun ar gyfer sut y byddwn ni’n dychwelyd at weithgareddau arferol pan fydd Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ni wneud hynny. Byddwn ond yn gwneud hyn pan fyddwn ni’n teimlo ei bod yn ddiogel gwneud hynny. A byddwn ni ond yn gwneud hyn mewn ffordd sy’n ddiogel. Gallai hyn olygu ein bod yn rhedeg gweithgareddau mewn ffordd sy’n wahanol i’r arfer.

Yn y cyfamser, ry’n ni wedi symud ein gweithgareddau at lwyfannau ar-lein:

  • Sesiynau Capsiwl Amser Coronafeirws wythnosol sy’n cefnogi pobl ifanc i gyfrannu at rifyn Capsiwl Amser bob wythnos
  • Sesiynau Gêmau Wythnosol bob dydd Iau
  • Bob dydd Llun, ry’n ni’n rhyddhau fideo Well Celf Well Chi newydd gyda thasgau creadigol y gallwch eu gwneud gartref er mwyn helpu eich llesiant
  • Mae ein prosiect Amplify:Trowch e Lan, mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Pontardawe, nawr yn cynnal cyrsiau a digwyddiadau ar-lein. (Gweler: Canolfan Celfyddydau Pontardawe – Beth Sy’ Mlân)

Ry’n ni’n gweithio ar raglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer yr Haf hefyd. Bydd rhagor o wybodaeth yma yn y man.

Cofiwch ein bod ni ar ddiwedd y ffôn, neges destun neu neges uniongyrchol, a buasen ni’n dwlu clywed gan unrhyw rai ohonoch, am sgwrs neu os ydych chi angen cymorth gydag unrhyw beth o gwbl.

Os hoffech chi ymuno yn unrhyw rai o’r gweithgareddau hyn, neu os ydych chi eisiau cysylltu am unrhyw reswm, gallwch chi wneud hynny:

  • gallwch ein cyrraedd ni ar Twitter, FaceBook neu Instagram: @MessUpTheMess
  • anfon neges atom trwy e-bost: helo@messupthemess.co.uk
  • neu anfon neges destun atom: 07451 270 720